Gweledigaeth Ioan 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXII.1 Afon dwfr y bywyd, 2 Ffrwythlondeb a goleuni dinas Dduw. 6 Yr Arglwydd byth yn rhybuddio ei weision am bethau a ddaw, 9 Yr angel heb fynnu ei addoli, 18 Gair Duw nid iawn anghwanegu dim arno, na thynnu dim oddi wrtho.

1Ac efe a ddangosodd i mi afon bur o ddwfr y bywyd yn discleirio fel grisial, yn dyfod allan o orsedd-faingc Duw, a’r oen.

2Ac yng-hanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr ydoedd pren y bywyd, yr hwn oedd yn dwyn deuddec rhyw ffrwythau, ac a rodde ffrwyth bôb mis, a dail y pren a wasanaethe i iachau yr cenhedloedd.

3Ac ni fŷdd dim melldith mwy, ond gorsedd-faingc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi, a’i wasanaeth-wŷr a wasanaethant arno ef.

4Ac hwy a welant ei ŵyneb ef, a’i henw ef a fydd yn eu talcennau hwynt.

5* Ac ni bŷdd yno ddim nôs, anid rhaid iddynt ddim canwyll, na goleuad yr haul, canys yr Arglwydd Dduw sydd yn rhoi iddynt oleuni, ac hwy a deyrnâsant yn dragywydd.

6Ac efe a ddywedodd wrthifi, y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir, ac Arglwyd Dduw y prophwydi sanctaidd a ddanfônodd ei angel i ddangos iw wasanaeth-wŷr y pethau sy raid eu cyflawni ar frŷs,

7Wele, yr ŵyf yn dyfod ar frŷs, gwyn ei fyd yr vn a gadwo eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn.

8Ac myfi ŵyf Ioan, yr hwn a welais, ac a glywais y pethau hyn, a phan ddarfu mi glywed, a gweled, Pen.19.10.mi a syrthiais i law i addôli ger bron traed yr angel, yr hwn a ddangôsodd i mi y pethau hyn.

9Ac efe a ddywedodd wrthifi, gwêl na canys cŷd wasanaeth-wr wyfi i ti, ac i’th frodyr y prophwydi, a’r rhai sy yn cadw geiriau y llyfr hwn, addola Dduw.

10Ac efe a ddywedodd wrthifi, na selia eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn, canys y mae’r amser yn agos.

11Yr hwn sydd anghyfiawn bydded anghyfiawn etto, a’r hwn sydd frwnt bydded frwnt etto, a’r hwn sydd gyfiawn bydded gyfiawn etto, a’r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd etto.

12Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys, a’m gwobr sydd gyd â mi, Rhuf.2.6.i roddi i bôb dyn yn ôl y byddo ei waith ef.

13Myfi wyf Alpha ac Omega, Esai.41.4.y dechreuad a’r diwedd, y cyntaf a’r diweddaf.

14Gwyn eu byd y rhai a wnelo ei orchymynnion ef, fel y byddo iddynt awdurdod ar bren y bywyd, ac y gallant ddyfod i mewn, trwy yr pyrth i’r ddinas.

15Canys o’r tu allan y bydd y cŵn, a’r cyfaredd-wŷr, a’r putteinwŷr, a’r llofruddiaid a’r delw-addolwŷr, a phôb vn a garo, neu a wnelo gelwydd.

16Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i destiolaethu i chwi y pethau hyn yn yr eglwysi, myfi yw gwreiddin, a hiliogaeth Dafydd, a’r seren foreu eglur.

17Ac y mae yr Yspryd a’r briodas-ferch yn dywedyd tyret, a’r vn a wrandawo, dyweded, tyret, Esai.55.1.a’r vn sydd sychêdig, deued: a’r vn a fynno cymmered ddwfr y bywyd yn rhâd,

18Canys yr wyfi yn dangos i bôb vn a wrandawo eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn os rhydd nêb ddim at y pethau hyn, Deut. 4.2.|DEU 4:2. & 12.32.|DEU 12:32. dihar.30.6.Duw a rŷdd atto ef y plâau scrifennedig yn y llyfr hwn.

19Ac o thynn nêb ymmaith ddim o eiriau llyfr y brophwydoliaeth hon, Duw a gymmer ymmaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau a scrifennir yn y llyfr hwn.

20Yr hwn sydd yn testiolaethu y pethau hyn, sydd yn dywedyd, yn siccr yr ŵyf yn dyfod ar frŷs: Amen, tyret tithe ô Arglwydd Iesu.

21Grâs ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyd â chwi oll. Amen.

I’r vnic Dduw y byddo’r gogoniant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help