Marc 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Angel Duw yn dywedyd i’r gwragedd gyfodi Crist ac yr ae efe i Galilæa, 9 yntef yn ymddangos i Mair Magdalen, 12 ac i ddau eraill, 14 yna i’r vn a’r ddec, 15 ac wedi iddo roddi iddynt awdurdod i bregethu, a bedyddio a gwneuthur gwrthiau yn escyn i’r nefoedd.

1Ac Yn Luc.24.36. Ioh.20.19.ôl hynny efe a ymddangosodd i’r vn ar ddec, a hwynt yn cyd-eistedd, ac a ddānododd iddynt eu anghreduniaeth, a’u calon galedwch, am na chredent y rhai a’i gwelsent ef wedi adgyfodi.

15Ac efe a ddywedodd wrthynt: Math.28.19.ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur,

16Y neb a gredo, ac a fedyddier a fydd cadwedig, Ioh.12.48eithr y neb ni chredo a gondemnir.

17A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Act.16.18.yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid, a llefarant Act.2.4.â thafodau newyddion.

18 Act.28.5. Seirph a godant hwy ymmaith, ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt niwed, Act.28.8.ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, ac hwynt hwy a fyddant iach.

19Wedi darfod i’r Arglwydd lefaru wrthynt, Luc.24.51.cymmerwyd ef i fynu i’r nef, ac a efe a eisteddodd ar ddeheu-law Duw.

20A hwynt a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a’r Heb.2.4.Arglwydd yn cydweithio ac yn cadarnhau yr gair trwy arwyddion y rhai oeddynt yn canlyn. Amen.

Terfyn y gyssegr-lan Efengyl yn ôl S. Marc.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help