1.Cronicl 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.1 Gosodiad yr Arch yn y babell. 4 Dafydd yn gosod Asaph, ac eraill i weini yn y babell. 7 Dafydd yn gwneuthur Psalm i Dduw. 57 Adroddiad swydd y Lefiaid.

1Felly 2.Sam.6.17.dugasant hwy Arch Dduw i mewn, ac ai gosodasāt hi yng-hanol y babell, yr hon a ystynnase Dafydd iddi hi: a hwy a offrymmasant offrymmau poeth, ac ebyrth hedd ger bron Duw.

2Pan ddiweddodd Dafydd aberthu offrymmau poeth, ac ebyrth hedd: yna y bendithiodd efe y bobl yn enw yr Arglwydd.

3Ac efe a rannodd i bôb vn Israel, yn wr, ac yn wraig dorth o fara, a golwyth, a chostreled

4Ac efe a osododd ger bron Arch ’r Arglwydd wenidogion o’r Lefiaid i goffau, ac i foliannu, ac i ogoneddu Arglwydd Dduw Israel.

5Asaph bēnaf, ac yn ail iddo ef Zacharia, Ieiel, a Semiramoth, ac Iehiel, a Mathathia, ac Eliab, a Benaia, ac Obed Edom, ac Ieiel ag offer, nablau, a thelynau, ac Asaph oedd yn lleisio a Symbalau.

6Benaia hefyd, ac Iahaziel yr offeiriaid ag vdcyrn yn wastadol o flaen Arch cyfammod Duw.

7Yna yn y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd drwy law Asaph ai frodyr.

8Moliennwch yr Arglwydd, Psal.105. Esa.12.4.gelwch ar ei enw ef, hyspyswch ei weithredoedd ef i’r bobloedd.

9Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau.

10Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef: ymhyfryded calon y sawl a geisiāt ’r Arglwydd

11Ymofynnwch yr Arglwydd, ai nerth ef: ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.

12Cofiwch ei wrthiau ef, y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau ef.

13Hâd Israel ei wâs ef: meibion Iacob ei etholedigion ef:

14Efe yw’r Arglwydd ein Duw ni, ei farnedigaethau ef y gair a orchymynnodd efe i fil o oesoedd

16Yr Gene.22.16.|GEN 22:16. luc.1.73.|LUK 1:73 hebr.6.17.hwn a gyfammododd efe ag Abraham, ai lŵ ef i Isaac.

17Ac a osododd efe yn ddeddf i Iacob, yn gyfammod tragywyddol i Israel.

18Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dîr Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.

19Pan oeddych yn bobl anaml, ac yn ddieithriaid yno.

20A phan rodient hwy o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o frenhiniaeth at bobl eraill.

21Ni adawodd efe i neb eu gorthrymmu hwy: onid efe a geryddodd frenhinoedd oi plegit hwy

22Na chyffyrddwch am eneiniog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi.

23 Psal 96.1. Cenwch i’r Arglwydd yr holl ddaiar mynegwch o ddydd i ddydd ei iechydwriaeth ef.

24Adroddwch ei ogoniant ef ym mhlith y cenhedloedd, ai wrthiau hefyd ym-mhlith yr holl bobloedd.

25Canys mawr’r Arglwydd, a clodforusaf: ofnadwy hefyd yw efe vwch yr holl dduwiau.

26O herwydd holl dduwiau y bobloedd eulynnod, onid yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.

27Gogoniant a phrydferthwch ger ei fron ef, nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.

28Moeswch i’r Arglwydd chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i’r Arglwydd ogoniant, a nerth.

29Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw ef: dygwch ebyrth, a deuwch ger ei fron ef: ymgrymmwch i’r Arglwydd ym mhrydferthwch sanctaiddrwydd.

30Dychrynwch rhagddo ef yr holl ddaiar, îe y byd a siccrhauir, fel na syflo.

31Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaiar, a dywedant ym mhlith y cenhedloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu.

32Rhued y môr ai lawndra, llawenhaed y maes a’r hyn oll ynddo.

33Yna prennau y goedwig a ganant o flaen’r Arglwydd, pan ddelo efe i farnu y ddaiar.

34Moliannwch yr Arglwydd canys da yw efe: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.

35A dywedwch, achub ni ô Dduw ein iechywriaeth, cascl ni hefyd, a gwaret ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, gan ymogoneddu yn dy foliant di.

36Bendigedic Arglwydd Dduw Israel o Dragywyddoldeb, hyd dragywyddoldeb: a dyweded yr holl bobl Amen: gan foliannu yr Arglwydd.

37Ac efe a adawodd yno o flaen Arch cyfammod yr Arglwydd Asaph ai frodyr, i weini ger bron yr Arch yn wastadol y peth dydd yn ei ddydd.

38Ac Obed Edom, sef Obed Edom mab Ieduthun, ac Hoso, ac ŵyth a thri vgain oi brodyr hwynt oeddynt yn borthorion.

39Zadoc hefyd yr offeiriad, ai frodyr ef yr ofeiriaid oeddynt o flaen tabernacl yr Arglwydd, yn yr vchelfa yr hon yn Gibeon,

40I offrymmu poeth offrymmau’r Arglwydd ar allor y poeth offrwm yn wastadol y boreu a’r hwyr: yn ôl yr hyn oll a’r y sydd scrifennedic yng-hyfraith yr Arglwydd, yr hon a orchymynnodd efe i Israel.

41A chyd a hwynt Heman, ac Ieduthun, a gweddill yr etholedigion, y rhai a ddewisasyd wrth henwau i foliannu yr Arglwydd: canys ei drugaredd yn dragywydd.

42A chyd a hwynt Heman, ac Ieduthun yn lleisio ag vdcyrn, ac a Symbalau, ac offer cerdd Duw: a metbion Ieduthun wrth y porth.

43Yna yr holl bobloedd a aethant, pob vn iw dy ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help