1.Ioan 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.2 Testiolaeth wir am dragywyddol air Duw. 7 Bod gwaed Crist yn glânhau oddi wrth bechod. 10 Ac nad oes neb heb pechod.

1 YR hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo o air y bywyd,

2(Canys y bywyd a ymddangosodd, a gwelsom, ac yr ydym yn testiolathu, ac yn dangos i chwi y bywyd tragywyddol, yr hwn oedd gyd â’r Tâd, ac a ymddangosodd i ni,)

3Yr hyn a welsom, ac a glywsom yr ydym yn ei fynegu i chwi, fel y byddo i chwithau hefyd gymdeithas gyd â ni, ac fel y byddo ein cymdeithas ni hefyd gyd â’r Tâd a’i Fâb Iesu Grist.

4A’r pethau hyn yr ydym yn eu scrifennu attoch fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

5Hyn yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei adrodd i chwi, mai 1.Io.1.12.(sic.)goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.

6Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym ar y gwîr.

7Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â’i gilydd, a Heb. 9.28.|HEB 9:28. 1.pet.1.19.|1PE 1:19. gwele.1.5.gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau oddi wrth bob pechod.

8Os 1.Bre.8.46.|1KI 8:46. 2.chron.6.36.|2CH 6:36. dihar.20.9.dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ar gwirionedd nid yw ynom.

9Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac ein glânhâo ni oddi wrth bob anwiredd.

10Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air nid yw ynom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help