1 Dadle Arglwydd â’r rhai a ddadleuant i’m herbyn: rhyfêla yn erbyn y rhai a ryfêlant â mi.
2Ymâfel yn y tarian a’r astalch, a chyfot i’m cymmorth.
3Dwg allan y waiw-ffon, ac argaea yn erbyn fy erlid-wŷr: dywet wrth fy enaid, myfi dy iechyd.
4Cywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn hôl, a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu.
5Byddant fel vs o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn gwascâru.
6Bydd eu ffordd yn dywyllwch, ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid.
7Canys heb achos y cuddiasant bydew ai rhwyd i mi: heb achos y cloddiasant i’m henaid.
8Deued arno ddestruw ni ŵypo, ai rwyd yr hon a guddiodd efe ai dalio: syrthied yn y destruw hynny.
9Eithr llawenyched fy enaid i yn yr Arglwydd: ymhyfryded yn ei iechydwriaeth ef.
10Fy holl escyrn a ddywedant, ô Arglwydd, pwy fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fydd trêch nag ef? y truan hefyd a’r tlawd rhag y neb ai hyspeilio?
11Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
12Talâsant i mi ddrwg dros dda, gan yspeilio fy enaid.
13A minne pan glefychent hwy a’m gwisc o sach-len, gostyngais fy enaid ag ympryd: a’m gweddi a ddymchwelodd i’m, monwes fy hun.
14Ymddygwn fel’n gyfaill, fel yn frawd i mi: ymostyngwn mewn galar-wisc fel yn galâru am fam.
15Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasclasant, ymgasclodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn: min-gammasant ac ni pheidient.
16Ym mysc y rhag-rithwŷr gwattwarwyr mwys-air yn escyrnygu eu dannedd arnaf.
17Arglwydd hyd pa brŷd yr edrychi di gwaret fy enaid rhag eu destruw hwynt, fy vnic rhag y llewod.
18[Yna] i’th glodforaf mewn cynnulleidfa fawr: moliannaf di ym mhlith pobl lawer.
19Na lawenyched fyng-elynnion i’m herbyn yn anghyfiawn: y sawl a’m casânt yn ddiachos amneidiant â llygad.
20Can nad ymddiddanant yn dangneddyfus: eithr dychymmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd ar y ddaiar.
21Lledâsant eu safn arnaf, gan ddywedyd: ffei, ffei, gwelodd ein llygad.
22Gwelaist Arglwydd, na thaw dithe: nac ymbellhâ oddi wrthif ô Arglwydd.
23Cyfot, a deffro i’m barn, i ddadle gyd â mi, fy Nuw, a’m Harglwydd.
24Barn fi Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder: ac na lawenhânt o’m plegit.
25Na ddywedant yn eu calon, ô ein gwynfyd: ac na ddywedant, llyngcasom ef.
26Cywilyddier, a gwaradwydder hwy eu gyd y rhai sy lawen am fy nryg-fyd: gwiscer â gwarth, ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn.
27Caned a llawenyched y rhai a hoffant fyng-hyfiawnder, a dywedant hefyd yn wastad, mawryger yr Arglwydd yr hwn a gâr lwyddiant ei wâs.
28Fy nhafod inne, a fyfyrria dy gyfiawnder, a’th foliant bob dydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
