Mathew 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Crist yn rhoddi iw Apostlion awdurdod i iachau clefydau, ac i bregethu yr Efengyl, 13 Gan rybuddio pa lwyddiant a pha flinder a gaent hwy, 22 a chan eu hannog i barhau yn ddioddefgar, 24 am i Grist ddioddef yn gyntaf, 30 am fod Duw yn gofalu trosom fel na wnelo ein dioddefaint niwed, 37 am y dylem garu Duw yn fwy nâ dim bydol, 39 Ac am fod yn fuddiol dioddef hyd farwolaeth er mwyn Crist, 40 Ac yn ddiweddaf y mae yn annog i dderbyn a mawrhau pregeth-wyr.

1Ac efe a alwodd ei ddeuddec discybl atto, ac a Mar 3.13. Luc.9.1.roddes iddynt allu yn erbyn ysprydion aflan, iw bwrw hwy allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.

2A henwau y deuddec Apostol yw y rhai hyn: y cyntaf, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, Iaco Zebedeus, ac Ioan ei frawd:

3Philip, a Bartholomeus: Thomas, a Mathew y publican: Iaco Alpheus, a Lebbeus yr hwn a gyfenwid Thadeus:

4Simon y Canaanead, ac Iudas Iscariot yr hwn hefyd ai bradychodd ef.

5Y deuddec hyn a yrrodd yr Iesu ymmaith, ac a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, nac ewch i ffordd y cenhedloedd, ac na ddeuwch i ddinasoedd y Samariaid.

6Eithr ewch yn hytrach at Act.13.46.gyfrgolledic ddefaid tŷ Israel.

7Ac wrth fyned pregethwch gan ddywedyd, Luc.10.9.fod teyrnas nefoedd yn agos.

8Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahan-glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbynniasoch yn rhâd, rhoddwch yn rhâd.

9Na Marc.6.8. Luc.9.3.feddwch aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau.

10Nac screpan i’r daith, na dwy bais, nac escidiau, na ffonn: canys 1.Tim.5.18. Luc.10.7.teilwng i’r gweithiwr ei fwyd.

11Ac Luc 10.8.i ba ddinas bynnac neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd addas ynddi, ac yno trigwch, hyd onid eloch ymmaith.

12A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch iddo gan ddywedyd, tangneddyf i’r tŷ hwn.

13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangneddyf arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangneddyf attoch.

14A phwy Mar.6.11. Luc.9.5.bynnac ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, Act.13.51.escytwch y llwch oddi wrth eich traed.

15Yn wir meddaf i chwi, esmwythach i dir y Sodomiaid, a Gomorriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.

16Wele Luc.20.3.yr ydwyfi yn eich danfon fel defaid ym mysc bleiddiaid: byddwch am hynny mor gall â seirph, ac mor ddiniwed a cholomennod.

17Eithr ymogelwch rhag dynion, canys hwy a’ch rhoddant chwi i fynu i’r cyngor, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu Synagogau.

18A chwi a ddygir at raglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er testiolaeth iddyn, ac i’r cenhedloedd.

19Eithr pan Mar.13.11. Luc.12.15.i’ch rhoddant chwi i fynu, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch.

20Canys nid chwy-chwi yw’r rhai sy yn llefaru, onid Yspryd eich Tâd yr hwn sydd yn llefaru ynoch.

21A’r Luc.21.16.brawd a fradycha’r brawd i farwolaeth, a’r tâd y mab, a’r plant a godant i yn erbyn eu tâd a’u mam, ac a barant eu marwolaeth hwynt.

22A châs fyddwch gan bawb er mwyn fy enw: Mar.13.13. Luc.21.19ond yr hwn a barhauo hyd y diwedd, efe fydd cadwedic.

23A phan i’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffoiwch i vn arall: canys yn wîr y dywedaf wrthych, na orphennwch ddinasoedd Israel nês dyfod Mâb y dŷn.

24Nid Luc.6.48. Ioh.13.16yw’r discybl yn vwch nâ’i athro, na’r gwâs yn vwch na ei arglwydd.

25Digon i’r discybl fôd fel ei athro, a’r gwâs fel ei arglwydd: Math.12.24os galwasant berchen y tŷ yn Beelzebub, pa faint mwy ei dŷ-lwyth ef?

26Am hynny nac ofnwch hwy, Mar.4.22. Luc.8.17. & 12.2.o blegit nid oes dim cuddiedic a’r nas datcuddir, na dim dirgel a’r na ddaw i ŵybodaeth.

27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn eich clust pregethwch ar y tai.

28Ac nac ofnwch y rhai a laddant y corph, ac ni allant ladd yr enaid, eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddestruwio yr enaid gyd â’r corph yn vffern.

29Oni werthir dau aderyn y tô er ffyrling? ac ni syrth yr vn o honynt i’r llawr heb eich Tâd chwi.

30Ac y mae hefyd eich 2.Sam.14.11. Act.27.34.holl wallt wedi eu cyfrif.

31Nac ofnwch gan hynny, chwi a dêlwch fwy nâ llawer o adar y tô.

32Pwy Mar.8.38. Luc.9.26. 2.Tim.2.12.bynnac gan hynny a’m cyffesa fi yng-ŵydd dynion, minnef ai cyffesaf yntef yng-ŵydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

33A phwy bynnagc a’m gwado i yng-ŵydd dynion, minnef a’i gwadaf yntef yng-ŵydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

34Na Luc.12.51.thybygwch fy nyfod i ddanfon tangneddyf ar y ddaiar: ni ddaethym i ddanfon tangneddyf, onid cleddyf.

35Canys mi Miche.7.6.a ddaethym fel yr ymryfaelie dŷn yn erbyn ei dâd, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr.

36A gelynnion dŷn fydd tŷ-lwyth ei dŷ ei hun.

37Yr Luc.14.26.hwn sydd yn caru tâd neu fam yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi, a’r neb sydd yn caru mâb neu ferch yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi.

38A’r Math.16.24. Marc.8.34. Luc.9.23.hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ag yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng o honofi.

39Y Ioh.12.25.neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollodd ei einioes o’m plegit i, a’i caiff hi.

40Y Luc.10.16. Ioh.13.20.neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i: a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i.

41Y neb sydd yn derbyn prophwyd yn enw prophwyd, a dderbyn wobr prophwyd, a’r neb sydd yn derbyn cyfiawn yn enw cyfiawn, a dderbyn wobr cyfiawn.

42A Marc.9.41.phwy bynnac a roddo i’r vn o’r rhai bychain hyn phioled o oer yn vnic yn enw discybl, yn wîr y dywedaf i chwi, ni chyll efe ei wobr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help