1 Clodforwch yr Arglwydd canys dâ yw: o herwydd ei drugaredd yn dragywydd.
2[Felly] dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law’r gelyn,
3Ac a gasclodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewyn, o’r gogledd, ac o’r dehau.
4Cyrwydrâsant yn yr anialwch mewn diffaethwch ffordd: heb gael dinas i aros ynddi.
5Yn newynog ac yn sychedig eu henaid a lewygodd ynddynt.
6Yna y llefâsant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: efe ai gwaredodd oi gorthrymder.
7Ac ai tywysodd hwynt ar hŷd ffordd iniawn, i dyfod i ddinas gyfanneddol.
8Cyffesant o flaen yr Arglwydd ei drugaredd ef, ai ryfeddodau i feibion dynnion.
9Canys diwallodd efe yr enaid sychedig, ac a lanwodd yr enaid newynog â daioni.
10Y rhai a bresswyliant dywyllwch a chyscod angeu, yn rhwym cystudd a haiarn,
11O herwydd annufyddhaû o honynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12Yntef a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiâsant, ac nid oedd cynnorthwy-wr.
13Pan waeddâsant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: efe ai hachubodd oi gorthrymder.
14Dug hwynt allan o dywyllwch, a chyscod angeu: a drylliodd eu rhwymau hwynt.
15Cyffesant hwythau o flaen yr Arglwydd ei drugaredd, ai ryfeddodau i feibion dynnion.
16Canys efe a dorrodd y pyrth prês, ac a ddrylliodd y barrau heirn.
17Ynfydion o blegit eu camweddau, ac o herwydd eu hanwireddau a gystuddir.
18Eu henaid a ffieiddie bôb bwyd: a daethant hyd byrth angeu.
19Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: efe ai hachubodd oi gorthrymder.
20Anfonodd efe ei air, ac iachâodd hwynt: ac ai gwaredodd oi methiant.
21Cyffesant hwythau o flaen yr Arglwydd ei drugaredd ef: ai ryfeddodau i feibion dynnion,
22Aberthant hefyd aberth moliant: a mynêgant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
23Y rhai a ddescynnant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion:
24Hwy a welsant weithredoedd yr Arglwydd: ai ryfeddodau yn y dyfnder.
25Canys dywyedodd efe, a chyfododd temhestl-wynt: ac a dderchafodd ei donnau.
26[Y rhai] a escynnasant i’r nefoedd, a ddescynnasant i’r dyfnder, y toddodd eu henaid gan flinder.
27Ymdroâsant, ac ymsymmudâsant fel meddwyn: a methodd eu holl ddoethineb.
28Yna y gwaeddâsant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder, ac efe ai dygodd hwynt allan oi gorthrymder.
29Gwnaeth i’r storm sefyll yn dawel: ai tonnau a ostegâsant.
30Yna y llawenhausant am eu gostêgu, ac efe ai dug i’r porthladd a ddymunasent.
31Cyffesant hwythau o flaen yr Arglwydd ei drugaredd ef ai ryfedodau i feibion dynnion.
32A derchafed cynnulleidfa y bobl ef, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
33Efe a osododd y llifeiriant yn ddiffaethwch: a ffynhonnau dyfroedd yn ddispydd.
34[A] thîr ffrwyth-lawn yn ddiffrwyth: am ddrygioni y rhai a drigent ynddo.
35Gosododd yr anialwch yn llynn dwfr: a’r tîr crâs yn ffynhonnau dwfr.
36Ac yno y gwnaeth i’r newynog aros: ac y darparasant ddinas gyfanneddôl
37Ac yr heuâsant feusydd, ac y plannâsant win-llannoedd, ac y dugâsant ffrwyth toreithiog:
38Canys bendithiâse hwynt fel yr amlhâsāt yn ddirfawr, ac ni adawodd iw hanifeiliaid leihau
39Wedi hynny y lleihauwyd hwynt, ac y gostyngwyd gan gyfyngder dryg-fyd, a chŷni:
40Tywalltodd ddirmyg ar foneddigion, a gwnaeth iddynt gyrwydro mewn anialwch heb ffordd.
41Ond efe a gododd y tlawd o gystudd, ac a osododd deuluoedd fel praidd.
42Y rhai iniawn a wêlant, ac a lawenŷchāt: a phob anwiredd a gaea ei safn.
43Pwy ddoeth fel y cadwo hyn? ac y deallant drugareddau’r Arglwydd?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.