Ieremi 48 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVIII.Prophwydolîaeth yn erbyn y Moabiaid, 26 Am eu balchder, ai creulondeb.

1Fel hynn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel yn erbyn Moab: gwae Nebo, canys hi a wnaed yn anghyfannedd a wradwyddwyd, Ciriathaim a ennillwyd, Misgab a wradwyddwyd, ac a ddychrynnwyd.

2Nid ymfrostia Moab mwy o Hesbon, hwynt a ddychymmygasant ddrwg iw herbyn hi deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genhedlaeth, tithe ô Madmena a dorrir i lawr, cleddyf a’th erlid ti.

3Llef yn gweiddi o Horonaim: anrhaith, a dinistr mawr

4Moab a ddestruwiwyd, gwaeddodd ei rhai bychain hi.

5Canys Esa.15.5.wrth riw Luith y galarus a aiff i fynu mewn ŵylofain, ac yng-oriwared Horonaim y gelynnion a glywsant waedd dinistr.

6Ffoiwch chwi ymmaith, achubwch eich enioes: a byddwch chwi fel y grug yn yr anialwch.

7O herwydd i ti ymddyried yn dy weithredoedd a’th dryssorau dy hun, tithe a ddelir: 1.Bren.11.7.Chamos hefyd a aiff allan mewn caethiwed, ai offeiriaid, yng-hyd ai dywysogion.

8A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddiangc dinas, eithr derfydd am y dyffrynn, a’r gwastad a ddifwynir: megis y dywedodd yr Arglwydd.

9Rhoddwch adenydd i Moab, canys gan ehedec yr eheda hi: ai dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd heb bresswylydd ynddynt.

10Melldigedic yw yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus, a melldigedic yw yr hwn a attalio ei gleddyf oddi wrth waed.

11Moab a fu esmwyth arni er ei hieuengtid, ac hi a orphywysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, sef nid aeth hi mewn caethiwed: am hynny y safodd ei blas hi arni, ac ni newidiodd ei harogl.

12Am hynny wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd pan anfonwyf fud-wŷr, y rhai ai mudant hi, ac a waghânt ei llestri hi, ac a ddrylliant ei chostrêlau.

13Yna y cywilyddia Moab o blegit Chamos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel o blegit Bethel eu hyder hwynt.

14Pa ham y dywedwch chwi? cedyrn ydym ni, a rhyfel-wŷr nerthol?

15Moab a anrheithiwyd, ai dinasoedd hi a dderchafasant ai dewisol wŷr ieuaingc a ddescynnasant i’r lladdfa, medd y Brenin ai enw yn Arglwydd y lluoedd.

16Agos yw dinistr Moab i ddyfod: ai dialedd hi sydd yn bryssio yn ffêst.

17Alaethwch chwi drosti hi y rhai ydych oi hamgylch, a phawb a’r a edwyn ei henw hi dywedwch, pa fodd y drylliwyd y ffonn grêf, a’r wialen hardd?

18O bresswyl-ferch Dibon, descyn di o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched: canys anrheithi-wr Moab a ddaw i’th th erbyn, ac a ddinistria dy amddeffynfeudd.

19Presfwyl-ferch Aroer, saf di ar y ffordd, a gwilia, gofyn di i’r hwn a fyddo yn ffoi, a dywet wrth yr hon a ddiango, beth a ddarfu

20Gwr dwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: vdwch a gwaeddwch, yspyswch chwi yn Arnon anrheithio Moab.

21A barn a ddaw ar y tîr gwastad, ar Holon, ac Iahaza, ac ar Mephaath,

22Ar Dibon hefyd, ac ar Nebo, ac ar Beth Diblathaim,

23Ac ar Ciriathaim, ac ar Beth-gamul, ac ar Beth Maon,

24Ac ar Carioth, ac ar Bozra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab ym mhell, ac yn agos.

25Corn Moab a dorrwyd, ai braich hi a ddrylliwyd medd yr Arglwydd.

26Meddwwch hi o blegit hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd, ie Moab a ymdrybaeddodd yn ei chwdredd, am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd.

27Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti, fel pes cawsid ef ym mysc lladron? canys pan sonniech di am dano yr ymgyffroi.

28Trigolion Moab gadewch y dinasoedd, ac arhoswch chwi yn y graig, a byddwch megis colomen yr hon â nytha ac fin eithaf y twll.

29Nym Esa.16.6.a glywsom falchder Moab yn falch iawn: ei balchder ai thraha, ai hymchwydd, ac vchder ei chalon

30Myfi a adwen ei llid hi medd yr Arglwydd, ac nid yw iniawn: ei chelwyddau hi ni wnaethant iniondeb.

31Am hynny yr vdafi dros Moab, ac y gwaeddaf tros Moab ei gyd: a riddfana dros wyr Cir-hares.

32Myfi a ŵylaf drosot ti gwin-wydden Sabamah fel yr wylwyd dros Iezer, dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Iazer y daethant: yr anrheithi-wr a ruthrodd ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaiaf gwîn.

33Yna y dygir ymmaith y llawenydd, a’r digrifwch o’r dolydd, ac o wlad Moab, ac mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau, ni sethrir drwy floddest, eu bloddest ni bydd mwy.

34O herwydd y floedd o Helbon hyd Gleale, y llefant hyd Iahaz, o Zoar hyd Horonaim anner dair blwydd: canys dyfroed a Nimrim fyddant diyspydd.

35Mi a wnaf hefyd medd yr Arglwydd i Moab beidio a phoeth offrymmu mewn vchelfeudd, ac ag arogl-darthu iw duwiau.

36Am hynny y lleisia fyng-halon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir-hares y lleisia fyng-halon fel pibellau: canys y golud yr hwn a gasclasant a ddinistrir.

37O blegit pob penn a eillir, a phob barf a gwttogir, ar bod llaw rhwygiadau, ac am y lwynau sach-liain.

38Ar holl bennau tai Moab ai heolydd oll alaeth: o blegit myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter iddo, medd yr Arglwydd.

39Hwynt a vdant pa fodd y dinistriwyd hi? pa fodd y trôdd Moab gwarr, hi a gywilyddiwyd: felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb oi hamgylch.

40Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele Ier.49.23.a eheda fel eryr, ac a leda ei adenydd dros Moab.

41Y dinasoedd a orescynnir, a’r amddeffynfeudd a ennillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth escor.

42A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi hi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd.

43Braw, a ffôs, a magl arnat ti trigiannol Moab medd yr Arglwydd.

44Y neb a ffy rhag y braw a syrth yn y ffôs, a’r hwn a gyfyd o’r ffôs a ddelir yn y fagl, canys myfi a ddygaf arni ar Moab flwyddyn eu ymwelediad hwynt medd yr Arglwydd.

45Yng-hyscod Hesbon y saif y rhai a ffoant rhac cadernid, canys tân a aiff allan o Hesbon, a fflam o ganol Sion, ac a yssa ystlys Moab, a choryn y meibion terfyscar.

46Gwae di Moab, darfu am bobl Chamos, canys cymmerwyd ymmaith dy feibion mewn alltudaeth, a’th ferched mewn caethiwed.

47Etto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf medd yr Arglwydd: Hyd ymma farn Moab.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help