1Ac dymma eu pennau cenedl hwynt ai hachau hwynt, 3.Esdr.8.29.y rhai a ddaethant i fynu gyd a mi (yn nheyrnasiad Ezr.7.1.Artaxerxes y brenin) o Babilon.
2O feibion Phinehes Gersom, o feibion Ithamar Daniel, o feibion Dafydd Hattus.
3O feibion Zechaniah, o feibion Pharos Zachariah, a chyd ag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant, a dêc a deugaiu o wŷr.
4[Ac] o feibion tywysog Moab, Eliohenai mab Zerahia, a chyd ag ef ddau cant o wŷr.
5O feibion Iecania, mab Iahasiel, a chyd ag ef dry-chant o wŷr.
6O feibion Adin, Abed mab Ionathan a chyd ag efddêc a deugain o wŷr.
7Ac o feibion Elam, Isai mab Athalia, a chyd ag ef ddêc a thrugain, o wŷr.
8Ac o feibion Saphatia, Zebadia mab Michael: a chyd ag ef bedwar vgain o wŷr.
9O feibion Ioab, Obadia mab Iehiel: a chyd ag ef ddau cant a deunaw o wŷr.
10Ac o feibion Selomith, mab Iosiphiah, a chyd ag ef wyth vgain o wŷr.
11Ac o feibion Bebai, Zachari mab Bebai: a chyd ag ef ŵyth ar hugain o wŷr.
12Ac o feibion Asgad, Iohanan mab Haccatan: a chyd ag ef ddeng-wr a chant.
13Ac o feibion Adonicam y rhai olaf, dymma hefyd eu henwau hwynt Eliphelet, ac Iehiel, a Samaiah: a chyd a hwynt orugain o wŷr.
14Ac o feibion Biguai, Uthai, a Zabud: a chyd a hwynt ddêc a thrugain o wŷr.
15A chesclais hwynt wrth yr afon yr hon sydd yn myned i Ahafa, ac yno y gwerssyllasom ni dridiau: ac mi a ystyrriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni chefais yno o feibion Lefi.
16Yna’r anfonais at Eliezer, at Ariel, at Semeiah, ac at Elnathan, ac at Iarib, at Elnathan, ac at Nathan, ac at Zacharia, ac at Mesulam y pennaethiaid: at Ioiarib hefyd, ac at Elnathan y rhai doethion.
17A rhoddais orchymynnion gyd a hwynt at Ido pennaeth yn y fann Casphia: a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau iw traethu wrth Ido, ai frodyr y Nethiniaid yn y fann Casphia, am ddwyn attom ni wenidogion i dy ein Duw.
18A hwy a ddugasant attom (fel[yr oedd] daionus law Dduw gyd ani) ŵr deallgar o feibion Mahali fab Lefi, fab Israel, sef Serabiah ai feibion, ai frodyr yn ddau-naw.
19A Hasabia, a chyd ag ef Isai o feibion Merari ai frodyr, ai meibion vgain.
20Ac o’r Ezr.2.43.Nethiniaid y rhai a roddase Dafydd, a’r tywysogion yng-wasanaeth y Lefiaid dau cant, ac vgain o Nethiniaid: hwynt oll a yspyssasyd erbyn henwau.
21Ac yna wrth Afon Ahafa y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio ger bron ein Duw ni, gan geisio ganddo ef ffordd iniō i ni, ac i’n plant ac i’n golud oll.
22Canys cywilydd oedd gennif geisio gan y brenin fyddin, a gwŷr meirch i’n cynnorthwyo rhag y gelyn ar hyd y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin gan ddywedyd: llaw ein Duw ni ar bawb ai ceisiant ef mewn daioni, ai gryfdwr, ai ddigter yn erbyn pawb ai gadawant ef.
23Am hynny yr ymprydiasom, ac yr ymbiliasom a’n Duw am hyn: ac efe a wrandawodd arnom.
24Yna y nailltuais ddeuddec o bennaethiaid yr offeiriaid: Sarabia, Hasabia, a dêc oi brodyr gyd a hwynt.
25Yna y pwysais i attynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymmase’r brenin, ai gynghoriaid, ai dywysogion, a holl Israel y rhai a gawsid
26Ie pwysais iw dwylo hwynt, 1.Bren.9.14.chwe-chant a dêc a deugain talent o arian, a llestri arian o gant talent, chant talent o aur.
27A dêc o orflychau aur, o fil Ezr.2.69.o ddracmonau, a dau o lestri o brês melyn dâ morr brydferth ag aur.
28A dywedais wrthynt, sanctaidd chwi i’r Arglwydd, a’r llestri sanctaidd: yr arian hefyd, a’r aur yn offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau.
29Gwiliwch, a chedwch hyd oni phwysoch o flaen pennaethiaid yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a phennau cenedl Israel yn Ierusalem, nhryssorau tŷ’r Arglwydd.
30Felly’r offeiriaid, a’r Lefiaid a gymmerasant bwys yr arian, a’r aur, a’r llestri, iw dwyn i Ierusalem i dŷ ein Duw ni.
31A chychwnnasom oddi wrth afon Ahafa ar y deuddecfed o’r mis cyntaf, i fyned i Ierusalem: a llaw ein Duw oedd gyd a ni, ac a’n gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oeddynt yn brâd-fwriadu ar y ffordd.
32Daethom hefyd i Ierusalem, ac arhosasom yno dridiau.
33Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri yn nhŷ ein Duw ni i law Meremoth fab Uria’r offeiriad: ac Eleazar mab Phinehes gyd ag ef: ac Iosabad mab Iesua, a Noadia mab Bennoi y Lefiaid gyd a hwynt.
34[Yr oeddynt]yn y rhifedi, yn y pwys hwynt at bob vn, a’r holl bwysau a scrifennwyd y pryd hynny.
35Meibion y gaeth-glud y rhai a ddaethant o’r caethiwed a offrymmasant boeth offrymmau i Dduw Israel, deuddec o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum hugain o hyrddod, amyn tri pedwar vgain o ŵyn, deuddec o fychod yn bech-aberth: y cwbl yn offrwm poeth i’r Arglwyydd.
36A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a’r tywysogion tu hwnt i’r afon: a hwynt a gynnorthwyasant y bobl, a thŷ Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.