Gweithredoedd yr Apostolion 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Vrddiad saith o ddiaconiaid yn yr Eglwys, dysc Stephan. 11 A’i gyhuddiad.

1Yn y dyddiau hynny pan amlhaodd y discyblion y cyfodes murmur gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebræaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy, yn y weinidogaeth feunyddol.

2Yna’r deuddêc a alwasant yng-hyd y lliaws discyblion, ac a ddywedasant: nid yw gymhesur i ni adel gair Duw, a gwasanaethu byrddau.

3Am hynny frodyr, edrychwch yn eich plith am saith o wŷr o air da, llawn o’r Yspryd glân, a doethineb, y rhai a osodom yn hyn o orchwyl.

4Eithr nyni a barhawn mewn gweddi, a gweinidogaeth y gair.

5A bodlon fu gan yr holl dyrfa yr ymadrodd ymma, a hwy a etholasant Stephan gŵr llawn o ffydd ac o’r Yspryd glân, a Pen.21.8. Philip, a Phrochorus, Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicholas y proselyt o Antiochia.

6Y rhai a osodasant hwy ger bron yr Apostolion, ac wedi iddynt weddio, hwy a osodasant eu dwylo arnynt hwy.

7Yna y cynnyddodd gair Duw, ac yr amlhaodd rhifedi y discyblion yn ddirfawr yn Ierusalem, a llawer o’r offeiriaid a vfuddhasant i’r ffydd.

8Eithr Stephan yn llawn ffydd, a nerth, a wnaeth refeddodau a gwyrthiau mawr ym mysc y bobl.

9Yna y cyfodes rhai o’r synagog a elwir Libertiniaid, a Cyreniaid, ac o Alexandria, ac o’r rhai sy o Cilicia, ac Asia, ac a ymddadleuasant â Stephan.

10Ac ni allent wrthwynebu y doethineb, na’r Yspryd, drwy yr hwn yr ymadroddodd efe.

11Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.

12Ac hwy a gyffroasant y bobl, a’r henuriaid, a’r scrifennyddion, ac a ruthrâsant iddo, ac a’i cippiasant ef, ac a’i dugasant at y cyngor.

13A hwy a osodâsant gau dystion y rhai a ddywedent: nid yw y dyn hwn yn peidio a dywedyd cabl eiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r gyfraith:

14Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd, yr Iesu hwn o Nazareth a ddestruwia y lle ymma, ac a newidia y defodau a roddes Moses i ni.

15A phan edrychodd y rhai oeddynt yn eistedd yn y cyngor arno ef oll, hwy a welent ei wyneb fel wyneb angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help