Iob 42 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLII.Iob yn edifarhau, 9 Ac yn gweddio tros ei gyfeillion, 12 Ac yn cael adref ddau cymmaint o dda, a phlant hefyd.

1Ac Iob a attebodd yr Arglwydd ac a ddywedodd:

2Myfi a wn y gelli di bob peth: ac na chuddiir meddwl oddi wrthit.

3Pwy’r hwn sydd yn cuddio gyfrinach fel nas gwyddir? am hynny y lleferais yr hyn nis deallais, rhy ryfedd i mi y rhai ni’s gwyddwn.

4Gwrando attolwg, ac myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysc dithe finne.

5Myfi a glywswn sôn am danat: ac yn awr fy llygad a’th welodd di.

6Am hynny y bydd ffiaidd gennif fi ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch, a lludw.

7Ac wedi dywedyd o’r Arglwydd y geiriau hynny wrth Iob: yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliphaz y Themaniad, fy nigofaint a 217 gynneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill, am na ddywedasoch am danafi yn iniawn fel fyng-wasanaeth-wr Iob.

8Ond yn awr cymmerwchi chwi saith o fustych, a saith o faharynnod, ac ewch at fyngwasanaethwr Iob: ac offrymmwch boeth aberth trosoch chwi, a gweddied fyng-wasanaeth-wr Iob trosoch: canys mi a dderbynniaf ei wyneb ef, fel na wnelwyf i chwi ffolineb, am na ddywedasoch yr iniawn am danafi, fel fyng-wasanaeth-wr Iob.

9Felly Eliphaz y Themaniad, a Bildad y Suhiad, a Sophar y Naamathiad a aethant, ac a wnaethant fel y dywedase’r Arglwydd wrthynt hwy: a’r Arglwydd a dderbynniodd wyneb Iob.

10Yna’r Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Iob, pan weddiodd efe tros ei gyfeillion: a’r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll gan Iob yn ddau-ddyblyg.

11Ei holl geraint ef hefyd, ai holl garêsau, a phawb oi gydnabod ef o’r blaen a ddaethant atto ef, ac a fwyttasant fwyd gyd ag ef yn ei dy, ac a gyd-ofidiasant ag ef, ac ai cyssurasant ef, am bob drwg a ddygase’r Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo ef bob vn, vn darn o arian, a phob vn, vn tlws o aur.

12A’r Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Iob yn fwy nai ddechreuad ef: canys yr oedd ganddo ef bedair mîl ar ddêc o ddefaid, a chwe mîl o gamêlod, a mil o gyplau o ŷchen, a mil o assynnod.

13Ac yr oedd iddo ef saith o feibion, a thair o ferched.

14Ac efe a alwodd henw y gyntaf Iemima, a henw yr ail Cezia, a henw y drydedd Ceren-haphuc.

15Ac ni cheid gwragedd morr lân a merched Iob yn yr holl wlâd honno: ai tâd a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ym mhlith ei brodyr.

16Ac Iob a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd: ac a welodd oi feibion, a meibion ei feibion bedair cenhedlaeth.

17Ac Iob a fu farw yn hên, ac yn gyflawn o ddyddiau.

Terfyn llyfr Iob.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help