1Ac Ionas a weddiodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn,
2A dywedodd, o’m hing y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m hattebodd: o fol vffern y gwaeddais, a chlywaist fy llêf.
3Ti a’m bwriaist i’r dyfnder, i ganol y môr, y llanw a’m hamgylchynodd, dy donnau a’th gefn-foroedd a aethant drosof.
4A minnef a ddywedais, bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid, er hynny chwanegaf edrych tu a’th Deml sanctaidd.
5Y dyfroedd a amgylchynasant hyd fy enaid, y dyfnder a ddaeth o’m hamgylch, rhywmodd yr hesc am fy mhenn.
6Descynnais i odrau y brynnau, y ddaiar o’m hamgylch ai throsolion yn dragywydd: a’m Harglwydd Dduw a dderchafodd fy enioes o’r ffôs.
7Pan ymofidiodd fy enaid ynof, coffeais yr Arglwydd, am gweddi a ddaeth attat i’th Deml sanctaidd.
8Y neb a gadwant oferedd celwydd, a wrthodant eu trugaredd.
9A minnef mewn llais clodforedd a aberthaf i ti, talaf fy adduned: iechydwriaeth eiddo’r Arglwydd.
10A dywedodd yr Arglwydd wrth y pyscodyn, ac efe a fwriodd Ionas ar y tîr sych.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
