Michaes 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Yn erbyn trais, chwant a hyder y swyddogion a’r prophwydi.

1Dywedais hefyd, gwrandewch attolwg pennaethiaid Iacob, a thywysogion tŷ Israel, onid i chwi gŵybod barn?

2Casâu ddaioni, a hoffi drygioni, gan flingo eu croen oddi am danynt, ai cig oddi wrth eu hescyrn.

3A chîg fy mhobl’r hyn a fwytânt, ai croen a flingant oddi am danynt, ai hescyrn a ddrylliant, ac a friwant megis i’r crochan, ac fel cîg yn y badell.

4 Esa.1.15. Ezec.8.18. Iam.2.13. 1 Pet.3.11,12. Yna y llefant ar yr Arglwydd, ac ni’s ettyb hwynt, efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, am iddynt lygru eu gweithredoedd.

5Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y prophwydi sydd yn cefeiliorni fy mhobl, y rhai gan frathu ai dannedd a lefant heddwch: a’r neb ni roddo yn eu pennau hwynt cyhoeddant ryfel yn ei erbyn.

6Am hynny nôs i chwi yn lle gweledigaeth, a thywyllwch ichwi yn lle prophwydoliaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y prophwydi, a’r dydd a ddua arnynt.

7Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a’r prophwydi a wradwyddir, a phawb o honynt a gaeant eu genau: am na Duw atteb.

8Er hynny llawnwyd fi o rym gan Yspryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Iacob, ai bechodi i Israel.

9Gwrandewch hyn attolwg pennaethiaid tŷ Iacob, a thywysogion tŷ Israel: ffiaidd ganddynt farn, a gŵyro y maent bob iniondeb.

10Adeiladu Sion y maent â gwaed, ac Ierusalem ag anwiredd.

11Ei phennaethiaid a roddant farn er gwobr, ai hoffeiriaid a ddyscant er cyflog, a’r prophwydi a brophwydant er arian: etto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant, gan ddywedyd: onid yw’r Arglwydd i’n plith? ni ddaw drwg i’n herbyn.

12Am hynny o’ch achos chwi’r erddir Sion yn faes, ac Ierusalem a fydd yn garnedd, a mynydd y ty fel vchel leoedd y goedwic.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help