1.Cronicl 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.2 Dafydd yn anfon i ddiddanu Hanon brenin yr Ammoniaid yn ôl marwolaeth ei dâd ef. 4 Aniolchgarwch Hanon, ai draha yn erbyn cennadau Dafydd. 6 Rhyfel rhwng Dafydd a Hanon: yn yr hwn y gorchfygodd Dafydd.

1Ac yn ôl hyn y darfu i Nahas brenin meibion Ammon farw: 2.Sam.10.1.ai fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

2A Dafydd a ddywedodd, gwnaf garedigrwydd a Hanon fab Nahas, o herwydd gwnaeth ei dâd ef a’m fi garedigrwydd: ac anfonodd Dafydd gennadau iw gyssuro ef am ei dâd: a gweision Dafydd a ddaethant i wlâd meibion Ammon at Hanon iw gyssuro ef.

3A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanon, ai anrhydeddu dy dâd ti y mae Dafydd yn dy olwg di? am iddo anfon cyssur-wŷr attat ti? onid i spio, ac i chwilio, i ac droedio y wlâd y daeth eu weision ef attat ti?

4Yna y cymmerth Hanon weision Dafydd, ac ai heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dyllad hwynt yn eu hanner, wrth y glun: ac ai gollyngodd hwynt ymmaith.

5Ac fe a aethpwyd, ac a fynegwyd i Ddafydd am y gwŷr, yna efe a anfonodd iw cyfarfod hwynt, canys gwyr oeddynt wedi cywilyddio yn fawr: a dywedodd y brenin, trigwch yn Iericho, hyd oni dyfo eich barfau chwi, yna dychwelwch.

6Yna meibion Ammon a welsant mai brwnt y gwnaethent a Dafydd, ac anfonodd Hanon, a meibion Ammon fil o dalentau arian i gyflogi iddynt gerbydau, a marchogion, a Mesopotamia, ac 2.Sam.10.8.o Siria Maacha, ac o Zoba.

7A chyflogasant iddynt ddeuddeng-mil ar hugain o gerbydau a brenin Maacha at bobl: y rhai a ddaethant, ac a werssyllant o flaen Medeba, a meibion Ammon hefyd a ymgasclasant oi dinasoedd, ac a ddaethant i’r rhyfel.

8Pan glybu Dafydd, yna efe a anfonodd Ioab, a holl lu y cedyrn.

9A meibion Ammon a aethant, 2.Sam.10.8.ac a ymfyddinasant borth y ddinas: a’r brenhinoedd y rhai a ddelsent ar nailltu yn y maes.

10Pan ganfu Ioab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ym mlaen, ac yn ôl: yna yr etholodd efe oi holl etholedigion o fewn Israel, a hwy a ymdaclasant yn erbyn y Siriaid.

11A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd: a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon.

12Ac efe a ddywedodd, os trêch y Siriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy: ond os meibion Ammon a fyddant trêth na thi, yna mi a’th gynnorthwyaf dithe.

13Bydd rymmus, ac ymnerthwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw ni, a’r Arglwydd a wna’r hyn fyddo dda yn ei olŵg ef.

14Yna y nessaodd Ioab, a’r bobl y rhai gyd ag ef yn erbyn y Siriaid i’r rhyfel: a hwy a ffoasant oi flaen ef.

15Pan welodd meibion Ammon ffoi o’r Siriaid, yna hwyntau hefyd a ffoasant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a ddaethant i’r ddinas: ac Ioab a aeth i Ierusalem.

16Pan welodd y Syriaid ei lladd o flaen Israel, yna yr anfonasont gennadau, ac y dugasant y Siriaid y rhai o’r tu hwynt i’r afon: a Sophac capten llu Hadarezar oi blaen hwynt.

17Pan fynegwyd i Ddafydd yna efe a gasclodd holl Israel, ac a aeth tros yr Iorddonen, ac a ddaeth attynt hwy, ac a ymfyddinasant yn eu herbyn hwynt: pan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Siriaid, hwytheu a ryfelasant ef.

18Ond y Siriaid a ffoasant o flaen Israel, a lladdodd Dafydd o’r Siriaid saith mîl o gerbydau, a deugein mîl o wŷr traed: ac efe a laddodd Sophac capten y llû.

19A phan welodd gweision Hadarezar eu lladd hwynt o flaen Israel: yna yr hedd y chasant a Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynne y Siriaid gynhorthwyo meibion Ammon mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help