Psalmau 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. vij.Domine Deus in te speraui.Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r Arglwydd, o blegit geiriau 2.Sam.1.6,7.Chus fab Iemini.

1Arglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlid-wŷr, a gwaret fi.

2Rhag iddo larpio fy enaid fel llew: gan rwygo, pryd na gwaredudd.

3Fy Arglwydd Dduw, os gwneuthum hynn, od oes anwiredd yn fy nwylaw:

4O thêlais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi: oni waredais y rhai a’m gwrthwynebent heb achos:

5Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fyng-ogoniant i drigo yn y llŵch.Selah.

6Cyfot Arglwydd yn dy ddigllonedd, ymddercha o herwydd llid fyng-elynnion: deffro hefyd drosof y farn a orchymynnaist.

7Felly cynnulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithe i’r vchelder.

8Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn di fi ô Arglwydd yn ôl fyng-hyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd ynof.

9Darfydded weithian anwiredd yr annuwolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau, a’r arennau.

10Fy amddeffyn yn Nuw, iachawdur y rhai iniawn o galon.

11Duw sydd farnudd cyfiawn, a Duw sydd ddigllon beunydd

12Oni ddychwel efe a hoga ei gleddyf, efe a annelodd ei fŵa, ac ai paratôdd.

13Paratôdd efe hefyd iddo arfau anghefol, efe a weithiodd ei saethau yn erbyn yr erlid-wŷr.

14Wele efe a Esa.59.4. Iob.15.35.ymddwg anwiredd, canys beichiogodd ar gamwedd, ac efe a escor ar gelwydd.

15Cloddiodd bwll, trychodd ef, syrthiodd hefyd yn y destruw a wnaeth efe.

16Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ef ei hun: ai gamwedd a ddescyn ar ei goppa ei hun.

17Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder: a chan-molaf enw’r Arglwydd goruchaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help