2.Corinthiaid 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Y mae yn dangos fod ei gystudd yn Asia yn ddiddanwch iddynt hwy. 17 Ac yn dangos nad o yscafnder meddwl yr oedâse efe ddyfod attynt pan addawse.

1Paul Apostol Iesu Grist, a’r brawd Timotheus trwy ewyllys Duw at eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyd â’r holl seinctiau y rhai sy yn holl Achaia:

2Grâs fyddo gyd â chwi, a thangneddyf gan Dduw ein Tâd, a’r Arglwydd Iesu Grist.

3 Ephes.1.3. 1.pet.1.3. Bendigedic fyddo Duw Tâd ein Harglwydd ni Iesu Ghrist, Tâd y trugareddau, a Duw holl ddiddanwch,

4Yr hwn sydd yn ein diddânu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom y rhai sy mewn dim gorthrymder, trwy y diddanwch ein diddenir ninnau gan Dduw.

5O blegit fel yr amlheir dioddefiadau Crist ynom, felly yr amlheir ein diddanwch ni trwy Grist.

6Hefyd os cystuddir ni er diddanwch, ac iechydwriaeth i chwi, yr hon a weithir gan ymaros yn yr vn dioddefiadau, y rhai yr ydym ni hefyd yn eu dioddef: ac os diddanir ai, er diddanwch a iechydwriaeth i chwi

7Ac y mae ein gobaith yn siccr am danoch, gan i ni ŵybod, mai megis yr ydych yn gyfrannogion o’r dioddefiadau, felly hefyd o’r diddanwch.

8Canys frodyr ni fynnem i chwi fod heb ŵybod, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn anfeidrol vwch ben gallu, hyd onid oeddem yn ammeu na allem fyw.

9Ond ni a dderbyniasom farn angau ynom, fel na obeithiom ynom ein hunain, ond yn Nuw yr hwn sydd yn cyfodi i fynu y meirw:

10Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angeu, ac sy yn ein gwaredu: yn yr hwn yr ydym yn gobeitho y gwared efe rhag llaw.

11 Rhuf.15.30. Os chwy-chwi a gydweithiwch mewn gweddi trosom, fel, am y rhoddiad a rodded i ni o herwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer trosom,

12Canys ein gorfoledd ni yw hyn, testiolaeth ein cydwybod ni, o blegit mewn disymlrwydd, a duwiol burdeb, ac nid yn noethineb cnawdol, ond trwy râs Duw, y bu i ni ein ymddwyn ein hunain yn y bŷd, ond yn enwedic yn eich mysc chwi.

13Canys nid ydym yn scrifennu amgen bethau attoch nac yr ydych yn eu darllen, neu yr ydych yn eu cydnabod, ac yr ydwyf yn gobeithio y cydnabyddwch hyd y diwedd.

14Ac megis y cydnabuoch ni, o rann ein bôd yn orfolaeth i chwi, fel yr ydych chwithau i ninnau yn nŷdd yr Arglwydd Iesu.

15Ac yn y gobaith hyn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod attoch y waith gyntaf, fel y caffech ail grâs;

16A myned (heb eich llaw chwi i Macedonia, a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennwch i Iudea.

17Gan hynny, pan oeddwn yn amcanu fel hyn, a arferais i o yscafnder? neu a wyfi yn amcanu y pethau yr wyf yn amcanu, ar ôl y cnawd, fel y bydde gyd â mi îe, îe, ac nag ê, nag ê?

18Ond Duw sydd ffyddlon, canys nid îe, ac nagê ydoedd ein ymadrodd wrthych chwi.

19Canys Mab Duw Iesu Grist yr hwn a bregethwyd yn eich plith genym ni, sef myfi a Silfanus a Timotheus, nid ydoedd, îe, ac nage, eithr ynddo ef ie ydoedd.

20O blegit holl addewidion Duw ynddo ef ydynt, îe, ac ynddo ef Amen, er gogoniant Duw trywddom ni.

21A Duw’r hwn a’n cadarnhâ ni gyd â chwi yng-Hrist, ac a’n enêiniodd ni.

22Yr hwn hefyd a’n seliodd, Ephe.1.13.ac a roes wystleidiaith yr yspryd yn ein calonnau.

23Ac yr ŵyf fi yn galw Duw yn dŷst i’m henaid, mai er eich arbed chwi na ddauthym etto i Corinth.

24Nid am ein bôd yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwŷr i’ch llawenydd: o blegit trwy ffydd yr ydych yn sefyll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help