1Yna y galwodd Tobit ei fab Tobias, ac y dywedodd wrtho, edrych fy mab am ei gyflog i’r gŵr a aeth gyd â thi, a rhaid ydyw ei chwanegu.
2A Tobias a ddywedodd wrtho, fy nhad, nid anfodd gennif roi iddo ef hanner yr hyn a ddugym
3O herwydd efe a’m dug i adref i ti trachefn yn iach ac a iachâodd fyng-wraig, ac a gyrchodd yr arian, ac a’th iachâodd dithe heyd.
4A’r henaf-gŵr a ddywedodd, mae yn gyfiawn iddo eu cael.
5Yna y galwodd efe yr angel, ac a ddywedodd wrtho, cymmer hanner yr hyn oll a ddugasoch, a dôs yn iach.
6Eithr efe wedi eu galw ill dau ar neulltu a ddywedodd wrthynt: diolchwch i Dduw a moliennwch ef, a rhoddwch iddo ef fawr ogoniant, cyffeswch ef yng-ŵydd pawb o’r byd, am y pethau a wnaeth efe i chwi. Peth daionus yw diolch i’r Arglwydd a mawrhau ei enw ef, gan adrodd gweithredoedd Duw yn barchedig: ac nac oedwch ei foliannu ef.
7Cyfrinach y brenin sydd weddus ei chelu: ond gweithredoedd Duw sy ogoneddus eu cyhoeddi: gwnewch ddaioni, ac ni’ch goddiwes drwg.
8Daionus yw gweddi gyd ag ympryd, elusen a chyfiawnder: gwell yw ychydig gyd â chyfiawnder nâ llawer gyd ag anghyfiawnder, gwell yw rhoi elusenau na phen-tyrru aur.
9Canys elusen a wared rhag angeu, ac a lanhâ bob pechod: y rhai a wnel elusen a chyfiawnder a gyflawnir â bywyd.
10Eithr pechaduriaid sy elynnion iw bywyd eu hunain.
11NI chuddiaf rhagoch ddim: mi a ddywedais mai da yw cadw cyfrinach brenin, a gongoneddus dangos gweithredoedd Duw ar gyhoedd.
12Ac yr awran pan weddiaist di, a’th waudd Sarra, my fi a ddugum gof am eich gweddiau ger bron y Sanctaidd: a phan gladdit y meirw yr oeddwn gyd â thi hefyd.
13A phan nad oedaist godi a gadel dy ginio i fyned i gladdu ’r marw, nid oedd dy weithred dda yn guddiedic rhagof, eithr yr oeddwn gyd â thi.
14Ac yr awran Duw a’m danfonodd i i’th iachau di a’th waudd Sarra.
15Myfi yw Raphael vn o’r saith angel sanctaidd, y rhai sy yn arwain gweddiau rhai duwiol, ac sydd yn trammwy ger bron gogoniant yr hwn sydd sanctaidd.
16Yna y dychrynnasant ill dau, ac hwy a syrthiasant ar eu hwynebau o blegit hwy a ofnasent.
17Yna y dywedodd efe wrthynt, nac ofnwch, canys y mae tangneddyf i chwi, eithr rhoddwch ddiolch i Dduw.
18Canys nid o’m caredigrwydd fy hun, eithr drwy ewyllys eich Duw chwi y daethym, am hynny rhoddwch ddiolch iddo ef yn dragywydd.
19Beunydd yr ymddangosais i chwi megis pe buaswn yn bwytta, ac yn yfed, eithr nid oeddwn, namyn chwi a welech y fath beth.
20Ac yr awran moliennwch Dduw, canys mi a escynnaf at yr hwn a’m danfonodd: ac scrifennwch yr hyn oll a wnaethpwyd mewn llyfr.
21Yna y codasant i fynu, ac ni welsant ef mwy: a chyffesu rhyfedd-fawr weithredoedd Duw a wnaethant, a’r modd yr ymddangosasse Angel yr Arglwydd iddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.