1Wedi y pethau hyn, a’r gwirionedd ymma, 2.Bren.18.13. Esa.30.1. Eccl.48.18.y daeth Senacherib brenin Assyria: ac efe a ddaeth i mewn i Iuda, ac a werssyllodd yn erbyn y dinasoedd caeroc, ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun.
2Pan welodd Hezecia ddyfod Senacherib: a ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Ierusalem:
3Yna efe a ymgynghorodd ai dywysogion, ac ai gedyrn am argaeu dyfroedd y ffynhonnau y rhai allan o’r ddinas: a hwynt ai cynnorthwyasant ef.
4Felly pobl lawer a ymgasclasant, ac a argaeasant yr holl ffynhonnau, a’r afon yr hon sydd yn rhedeg drwy ganol y wlâd gan ddywedyd: pa ham y daw brenhinoedd Assyria, ac y cânt ddyfroedd lawer?
5Ac efe a ymegnîodd, ac a adailadodd yr holl fur drylliedic hwnnw, 2.Sam.5.9.ac a gadarnhaodd Milo ninas Dafydd: ac efe a wnaeth lawer o biccellau, ac o dariannau.
6Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl: ac ai casclodd hwynt atto i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth eu calon hwynt gan ddywedyd,
7Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch, nac ofnwch, ac na arswydwch rhac brenin Assyria, na rhac yr holl dyrfa’r hon gyd ag ef: canys gyd a ni fwy na chyd ag ef.
8Gyd ag ef braich gnawdol, a’r Arglwydd ein Duw cyd a ni i’n cynnorthwyo, at i ryfela ein rhyfeloedd: a’r bobl a ymgryfhausant o herwydd geiriau Hezecia brenin Iuda.
9Wedi hyn yr anfonodd 2.Bren.18.17.brenin Assyria ei weision i Ierusalem (tra efe yn erbyn Lachis ai holl allu gyd ag ef) at Hezecia frenin Iuda, ac at holl Iuda y rhai yn Ierusalem, gan ddywedyd.
10Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Assyria: ar ba beth yr ydych chwi yn hydêru, chwi y rhai sy’n aros yng-warchaedigaeth o fewn Ierusalem?
11Ond Hezecia sydd yn eich hûdo chwi, i’ch rhoddi chwi i farw drwy newyn, a thrwy syched gan ddywedyd: yr Arglwydd ein Duw ni a’n gwared ni o law brenin Assyria?
12Onid yr Hezecia hwnnw a dynnodd ymmaith ei vchelfeudd ef, ai allorau, ac a lefarodd wrth Iuda, ac Ierusalem gan ddywedyd, o flaen vn allor yr addolwch, ac ar honno yr aroglderthwch?
13Oni wyddoch chwi beth a wneuthum mi a’m tadau i holl bobloedd y tiroedd? ai gan allu y galle duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlâd o’m llaw i?
14Pwy ym mysc holl dduwiau y cehedloedd hyn (y rhai a ddarfu i’m tadau eu difetha) a’r a ddichon waredu ei bobl o’m llaw i: fel y galle eich Duw chwi eich gwaredu chwi o’m llaw i?
15Yn awr gan hynny na thwylled Hezecia chwi, ac na huded mohonoch fel hyn, ac na choeliwch iddo ef, canys ni ddichon vn Duw o’r holl genhedloedd na’r teyrnasoedd achub ei bobl o’m llaw i, nac o law fy nhadau: pa feint lai y gwared eich duwiau chwchwi o’m llaw i?
16Ai weision ef a ddywedasant chwaneg yn erbyn yr Arglwydd Dduw: ac yn erbyn Hezecia ei wâs ef.
17Ac efe a scrifennodd lythryrau gan gablu Arglwydd Dduw Israel: a thrwy lefaru yn ei erbyn ef gan ddywedyd, fel duwiau cenhedloedd y gwledydd y rhai nid achubasant eu pobl o’m llaw i, felly nid achub Duw Hezecia ei bobl o’m llaw i.
18Yna y gwaeddasant hwy * a llef vchel yn iaith yr Iddewon ar bobl Ierusalem y rhai ar y mûr, iw hofni hwynt, ac iw brawychu: fel yr enillent hwy y ddinas.
19Felly y dywedasant yn erbyn Duw Ierusalem, fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlâd gwaith dwylo dŷn.
20Yna y gweddiodd Hezecia y brenin, ac Esay mab Amos y prophwyd o blegit hyn: a hwy a waeddasant i’r nefoedd.
21Am hynny yr Arglwydd a anfonodd angel 2.Bren.19.35.yr hwn a laddodd bôb cadarne nerthol, blaenor hefyd a thywysog yng-werssyll brenin Assyria: felly efe a ddychwelodd a chywilydd wyneb iw wlâd ei hun, pan ddaeth efe i dy ei Dduw, yna 2.Bren.19.37. esa.37.38.y rhai a ddaethent allan oi emyscaroedd ei hun ai lladasant ef yno a chleddyf.
22Felly y gwaredodd yr Arglwydd Hezecia a thrigolion Ierusalem o law Senacherib brenin Assyria, ac o law pawb ac ai cadwodd hwynt oddi amgylch:
23A llawer oeddynt yn dwyn offrwm i’r Arglwydd i Ierusalem, a phethau gwerthfawr i Hezecia brenin Iuda: fel y derchafwyd ef o hynny allan yng-ŵydd yr holl genhedloedd.
24Yn 2.Bren.20.1. esa.38.1.y dyddiau hynny y clafychodd Hezecia i farw: ac efe a weddiodd ar yr Arglwydd, yntef a ddywedodd wrtho ef, ac a roddes argoel iddo ef.
25Ond ni thalodd Hezecia yn ôl y gwobr iddo ef: canys ei galon ef a dderchafodd: a digofaint a ddaeth yn ei erbyn ef, ac yn erbyn Iuda, ac Ierusalem.
26Er hynny Hezercia a ymostyngodd oddi wrth dderchafiad ei galon, efe a thrigolion Ierusalem: ac ni ddaeth digofaint yr Arglwydd arnynt hwy yn nyddiau Hezecia.
27Ac yr oedd gan Hezecia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn, ac efe a wnaeth iddo dryssorau o arian, ac o aur, ac o feini gwerth-fawr, o bêr-aroglau hefyd, ac o dariannau, ac o bôb llestri hyfrydaidd.
28A selêrau i gnŵd yr ŷd, a’r gwîn, a’r olew: a phresêbau i bôb anifail, a chorlannau i’r diadellau
29Ac efe a wnaeth iddo ddinasoedd, ac feddiant ef ddefaid a gwarthec yn aml: canys Duw a roddase iddo ef gyfoeth mawr iawn.
30A’r Hezecia ymma a argaeodd yr aber vchaf i ddyfroeod Esa.8.6. ioh.9.7.Gihon, ac ai dug hwynt yn inion oddi tanodd tua thu’r gorllewyn i ddinas Dafydd: felly y ffynnodd Hezecia yn ei holl waith.
31Ond o herwydd cennadau tywysogion Babilion, y rhai a anfonwyd atto ef i ymofyn am y rhyfeddod y rhwn a wnaethid yn y wlâd, y gwrthododd Duw ef: iw brofi ef, i ŵybod cwbl yn ei galon ef.
32A’r rhan arall o hanes Hezecia ai garedigrwydd ef: wele hwynt yn scrifennedic 2.Bren.18.19,20.yng-welegaeth Esay mab Amos y prophwydd, yn * llyfr brenhinoedd Iuda ac Israel.
33Ac Hezecia a hunodd gyd ai dadau, a claddasant ef yn y fann vchaf o feddau meibiō Dafydd, a holl Iuda a thrigolion Ierusalē a wnaethāt anrhydedd iddo ef yr amser y bu efe farw: a Manasses ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.