1YNA meibion Israel a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: am hynny’r Arglwydd ai rhoddodd hwynt yn llaw Madian saith mlynedd.
2Allaw Madian a orthrechodd Israel: ac rhac ofn y Madianiaid, meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau y rhai yn y mynyddoedd, a’r ogfeudd a’r amddeffynfaoedd.
3Pan hauase Israel, yna Madian a aeth i fynu, ac Amalec, a meibion y dwyrain a aethant hefyd i fynu yn eu herbyn hwynt.
4Ac a werssyllasant yn eu herbyn hwynt ac a ddinistriasant gnwd y ddaiar hyd oni ddelech i Azza: ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac assyn.
5Canys hwynt, ai hanifeiliaid a aethant i fynu ai pebyll, daethant fel locustiaid o amldra, ac nid rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: felly y daethant i’r wlâd iw destruwio hi.
6Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Madianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd.
7A phan lefodd meibion Israel ar yr Arglwydd o blegit y Madianiaid:
8Yna’r Arglwydd a anfonodd brophwydwr at feibion Israel, ac a ddywedodd wrthynt: fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, myfi a’ch dugum chwi i fynu o’r Aipht, ac a’ch ar weiniais chwi o dŷ y caethiwed.
9Mi hefyd a’ch gwaredais chwi o law’r Aiphtiaid, ac o law eich holl orthrym-wŷr: gyrrais hwynt allan hefyd o’ch blaen chwi, a rhoddais eu tîr hwynt i chwi:
10A dywedais wrthych: myfi yr Arglwydd eich Duw chwi 2.Bren.17.35. Ier.10.2.nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid y rhai’r ydych yn trigo yn eu gwlâd: ond ni wrandawsoch ar fy llais i.
11Yna angel yr Arglwydd a ddaeth, ac a eisteddodd tann y dderwen yr hon yn Ephrah, yr hon eiddo Ioas tâd yr Efrlaid: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith mewn gwin-wryf, i ffoi rhac y Madianiaid.
12Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho: yr Arglwydd gyd a thi cadarn nerthol.
13A Gedeon a ddywedodd wrtho arnaf fy arglwydd, od yw’r Arglwydd gyd a ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le ei holl ryfeddodau ef y rhai a fynegodd ein tadau i ni gan ddywedyd, ond yr Arglwydd a’n dûg ni i fynu o’r Aipht? canys yn awr yr Arglwydd a’n gwrthododd nî, ac a’n rhoddodd i law y Madianiaid.
14Yna’r Arglwydd a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, dos yn dy rymmusdra ymma, a gwaret Israel o law y Madianiaid: oni anfonais i dy di?
15Dywedodd yntef wrtho ef, attolwg fy Arglwydd pa fodd y gwaredaf fi Israel? wele fy nhâd yn dlotaf ym Manasses, a minne’n lleiaf yn nhŷ fy nhâd.
16Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef diau y byddafi gyd a thi: a thi a darewi y Madianiaid fel vn gŵr.
17Ac efe a ddywedodd wrtho, attolwg o chefais ffafor yn dy olwg: gwna erofi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthif.
18Na chilia attolwg oddi ymma hyd oni ddelwyf attat, ac oni ddygwyf fy offrwm, ac oni osodwyf ef ger dy fron: dywedodd yntef, myfi a arhosaf nes it ddychwelyd.
19Yna Gedeon a ddaeth, ac a baratôdd fynn gafr, ac Epha o beillied yn fara croiw, y cig a osododd efe mewn basced, a’r iscell a osododd efe mewn crochan: ac ai dug atto ef tann y dderwen, ac ai cyflwynodd.
20Ac angel Duw a ddywedodd wrtho, cymmer y cîg a’r baracroiw, a gosot ar y graig hon, a thywallt yr iscell: ac efe a wnaeth felly.
21Yna angel yr Arglwydd a estynnodd flaen y ffon yr hon yn ei law ef, ac a gyffyrddodd a’r cîg, ac a’r bara croiw, a’r tân a dderchafodd o’r graig, ac a yssodd y cîg, a’r bara croiw: ac angel yr Arglwydd a aeth ymmaith oi olwg ef.
22Pan welodd Gedeon mai angel yr Arglwyddefe: yna y dywedodd Gedeon oh Arglwydd Dduw, diau o herwydd Exod.33.20. Pen.13.22.i’m weled angel yr Arglwydd wyneb yn wyneb
23A dywedodd yr Arglwydd wrtho, tangneddyf it, nac ofna, ni byddi farw.
24Yna Gedeon a adailadodd yno allor i’r Arglwydd, ac ai galwodd Iehofa Salom: hyd y dydd hwn hi etto yn Ephrah tref-tad yr Esriaid.
25A’r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, cymmer y bustach yr hwn eiddo dy dâd, a bustach arall saith mlwydd oed: a destruwia allor Baal yr hon eiddo dy dâd, a thorr y llwyn yr hwn yn ei hymyl hi.
26Ac adailada di allor i’r Arglwydd dy Dduw ar benn y graig hon yn drefnus, a chymmer yr ail bustach, ac offrymma boeth offrwm ar goed y llwyn yr hwn a dorri di.
27Yna Gedeon a gymmerodd ddeng-wr oi weision, ac a wnaeth fel y llefarase’r Arglwydd wrtho ef: ac o herwydd ei fod yn ofni tŷ ei dâd, a gwŷr y ddinas os gwnae efe liw dydd, am hynny efe ai gwnaeth liw nos.
28Pan gyfododd gwŷr y ddinas y borau, yna wele allor Baal wedi ei dryllio, a’r llwyn yr hwn yn ei hymyl wedi ei dorri: a’r ail bustach wedi ei boeth offrymmu ar yr allor yr hon a adailadasid.
29A dywedodd pawb wrth ei gilydd, pwy a wnaeth y peth hyn? pan geisiasant a chwiliasant, yna y dywedasant, Gedeon mab Ioas a wnaeth y peth hyn.
30Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Ioas, dŵg dy fab fel y byddo efe marw: canys efe a ddrylliodd allor Baal, ac a dorrodd y llwyn yr hwn yn ei hymyl hi.
31Ac Ioas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei ymyl, ai chwi a ddadleuwch dros Baal? ai chwi ai ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os Duw efe dadleued drosto ei hun, am ddryllio ei allor.
32Efe ai galwodd ef y dwthwn hwnnw Ierubbaal gan ddywedyd: ymddadleued Baal drosto ei hun am ddryllio ei allor.
33Yna y Madianiaid oll, a’r Amaleciaid, a meibion y dwyrain a gasclwyd yng-hyd: ac a aethant, ac a werssyllasant yn nyffryn Iezrael.
34Ond yspryd yr Arglwydd a wiscodd am Gedeon: ac efe a Num.10.3.vdcanodd mewn vdcorn, ac Abiazar a aeth ar ei ôl ef.
35Ac efe a anfonodd gennadau drwy holl Manasses yr hwn pan alwyd ef ai canlynodd ef: anfonodd hefyd gennadau i Aser, ac i Zabulon, ac i Nephthali, ac aethant i fynu iw cyfarfod hwynt.
36Yna Gedeon a ddywedodd wrth Dduw: o gwaredi di Israel drwy fy llaw i megis y lleferaist,
37Wele fi yn gosod cnû o wlân yn y llawr dyrnu: os gwlith fydd ar y cnû yn vnic, a sychder ar yr holl ddaiar, yna y caf wybod y gwaredi di Israel drwy fy llaw i, fel y lleferaist.
38Ac felly y bu, canys cyfododd yn forau, ac a swppynnodd y cnû, ac a wascodd wlith o’r cnû loned phiol o ddwfr.
39A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw na lidied dy ddigllonedd i’m herbyn, Genes.18.32.a mi a lefaraf vn waith etto: profaf yn awr y waith hon yn vnic drwy’r cnû: bydded attolwg sychder ar y cnû yn vnic, ac ar yr holl ddaiar bydded gwlith.
40A Duw a wnaeth felly y nosson honno: canys yr oedd sychder ar y cnû yn vnic, ac ar yr holl ddaiar yr oedd gwlith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.