Iob 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Iob yn datcuddio ynfydrwydd ei gyfeillion, ac yn cydnabod doethineb Duw, ai allu.

1Ac Iob a attebodd, ac a ddywedodd,

2Diau mai chwy chwi bobl: a chyd a chwi y bydd marw doethineb.

3Eithr gennifi ddeall fel chwithau: nid ydwyfi waeth na chwithau, a phwy ni ŵyr y fath bethau a hyn?

4Yr ydwyf yn watworgerdd iw gyfell, yr hwn a eilw ar Dduw, ac efe ai hettyb: gwatworgerdd y cyfiawn perffaith.

5Pentewyn diystyr ym meddwl y llwyddiannus’r hwn sydd barod i lithro oi draed.

6Luestai heddychol sydd i yspeil-wŷr, a diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi Duw: y rhai a gyfoethogodd Duw ai law.

7Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwynt a’th ddyscant, ac i ehediad yr awyr, a hwy a fynegant i ti.

8Neu ddywet wrth y ddaiar, a hi a’th ddysc: a physcod y môr a yspysant i ti.

9Pwy ni ŵyr am y rhai hyn oll, mai llaw’r Arglwydd ai gwnaeth hwy?

10Yr hwn enioes pob peth byw yn ei law: ac anadl pob mâth ar ddyn.

11Onid y glust a ddirnad ymadroddion, a’r genau a archwaetha ei fwyd?

12Doethineb mewn henuriaid: a deall mewn hîr ddyddiau.

13Gyd ag ef doethineb, a chadernid: cyngor, a deall eiddo ef.

14Wele efe a ddestruwia, ac nid adailedir: efe gae ar ŵr, ac nid agorir arno.

15Wele efe a attal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe ai denfyn hwynt, a hwy a ddifethant y ddaiar.

16Gyd ag ef y mae nerth a doethineb: efe piau y twylledic, a’r twyllodrus.

17Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith: ac efe a ynfyda farn-wŷr.

18Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd: ac yn rhwymo gwregis am eu lwynau hwynt.

19Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith: ac a blyga y rhai cedyrn.

20Efe sydd yn dwyn ymadrodd yr araithwŷr: ac yn dwyn synnwyr y rhai hên.

21Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion: ac yn gwanhaû y rhai cryfion o nerth.

22Efe sy yn dadcuddio dyfnion allan o dywyllwch: ac yn dwyn cyscod angeu allan i oleuni.

23Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac efe ai destruwiau hwynt: efe sydd yn ehangu ar y cenhedloedd, ac efe ai dwg hwynt

24Efe sydd yn dwyn calon pennaethiaid pobl y ddaiar: ac efe a wna iddynt hwy fyned ar gyfrgoll mewn gwag-le heb ffordd.

25Hwynt a balfalant â thywyllwch, ac nid â goleuni: ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help