Diharebion 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.

1Cloriannau anghywir idynt ffiaidd gan yr Arglwydd, ond pwys cymmwys sydd fodlon ganddo ef.

2Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth, ond gyd a’r gostyngedig y mae doethineb.

3Perffeithrwydd yr iniawn ai tywys hwynt, ond trawsedd yr anffyddlonniaid ai difa hwynt.

4Ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint, ond cyfiawnder a wared rhag angeu.

5Cyfiawnder yr iniawn ai hyffordda ef, ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.

6Cyfiawnder y cyfiawn ai gwared hwynt, ond y rhai anffyddlon a ddelir yn eu drygioni.

7 Doeth.5.15. Pan fyddo marw y drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef, a ai obaith gadarn a gyfergollir.

8Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei lê ef.

9Rhagrithiwr ai enau a lygra ei gymmydog, ond y cyfiawn a waredir drwy ŵybodaeth.

10Yr holl ddinas a ymlawenhâ o herwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfergoller y drygionus y bydd gorfoledd.

11Trwy fendith y cyfiawn y derchefir y ddinas, ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.

12Y neb a ddiystyro ei gymmydog ynfyd yw, ond y synhwyrol a daw a sôn.

13Yr hwn a rodia ag athrod a ddatguddia gyfrinach, ond y ffyddlon ei galon a geidw beth yn gyfrinachol.

14Lle ni byddo callineb y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gyngor-wŷr y bydd iechydwriaeth.

15Dryllir yn ddrylliau y neb a fachnio dros ddieithr-ddyn: ond y neb a gasâo fachniaeth fydd ddiofal.

16Gwraig rasol a gaiff afael ar anrhydedd, fel y caiff y galluog afael ar gyfoeth.

17Gŵr trûgarog a fydd dâ wrth ei enaid ei hun: ond yr a flino ei gnawd ei hûn sydd greulon.

18Y drygionus a wna waith twyllodrûs, ond i’r neb a hauo gyfiawnder y bydd gwobr siccr.

19Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly, dilyn drygioni a dywys i angeu.

20Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb ydynt gyndyn yn eu calonnau, eithr cymeradwy ganddo ef yw y rhai sy berffaith yn eu ffyrdd.

21Er maint fyddo cymmorth y drygionus ni bydd yn eûog: ond hâd y cyfiawn a waredir.

22Fel modrwy aûr yn nhrwyn hŵch yw benyw lân heb ddeall.

23Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddigter.

24Rhyw vn a wascar ei dda, ac efe a gyfoethogir yn fwy: a rhyw vn arall a arbed ei dda, ac a syrth i dlodi.

25Y gŵr hael a gaiff ddigon: a’r neb a ddwfrhâo a ddwfrheir.

26Y neb a guddio ei ŷd, y bobl ai melldithia: ond bendith a fydd ar ben y neb ai gwertho.

27Y neb a geisio ddaioni a ennill ewyllys da: ond y nêb a geisio ddrwg, iddo y daw.

28Y neb a roddo ei goel ar ei gyfoeth a syrthia: ond y rhai cyfiawn a flodeûant megis cangen.

29Y neb a flino ei dŷ ei hun a berchennoga’r gwynt: a’r ffôl a wneir yn wâs i’r synhwyrol.

30Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a’r neb a ennillo eneidiau sydd ddoeth.

31Os y cyfiawn a gospir ar y ddaiar hon: pan nad mwy y drygionus a’r pechadur?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help