1.Cronicl 26 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVI.Porthorion y deml, a’r tryssor-dai.

1Am ddosparthiad y porthorion o’r Corethiaid: Meselemiahu mab Core o feibion Asaph.

2A meibion Meselemiahu Zechariahu y cyntaf-anedic, Iediel yr ail, Zebadiahu y trydydd, Iahniel y pedwerydd.

3Elam y pummed, Iehohanan y chweched, Elihoenai y seithfed.

4A meibion Obed Edom, Semeia y cyntaf-anedic, Iehosabad yr ail, Ioah y trydydd, Sacar hefyd y pedwerydd, a Nathanael y pummed.

5Ammiel y chweched, Islachar y seithfed Peulthai yr ŵythfed, canys Duw ai bendithiodd ef.

6Ac i Semei ei fab ef y ganwyd meibion y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tâd: canys cedyrn a nerth oeddynt hwy.

7Meibion Semeia: Othni, Rephael hefyd, ac Obed, Elzabad, ei frodyr ef feibion nerthol Elihu, a Semachia.

8Y rhai hyn oll o feibion Obed Edom, hwynt ai meibion, ai brodyr yn wŷr nerthol mewn cryfdwr tu ag at y wenidogaeth dri vgain, a dau o Obed Edom.

9Ac o Meselemiahu yn feibion, ac yn frodyr tri ar bymthec yn feibion nerthol.

10O Hosa hefyd, o feibion Merari, y meibion Zimri y pennaf, er nad oedd efe gyntaf-anedic, etto ei dâd ef ai gosododd ef yn ben.

11Helchiahu yn ail, Tebaliahu yn drydydd Zechariahu yn bedwerydd: holl feibion, a brodyr Hosa dri ar ddêc.

12O’r rhai hyn yr dosparthiadau y porthorion o bennau gwŷr yr orchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ’r Arglwydd.

13A hwy a fwriasant goel-brennau bychan a mawr yn ôl tŷ eu tadau am bob porth.

14A choel-bren Selemiahu a syrthiodd tu a’r dwyrain, a Zechariahu ei fab (cynghorwr deallgar) y bwriasant hwy goel-brennau, ai goel-bren ef a ddaeth tu a’r gogledd.

15I Obed Edom tu a’r dehau, ac iw feibion tŷ Asuppim.

16I Suppim, a Hosa tu a’r gorllewyn, gyd a phorth y sarn, ym mhriffordd y rhiw y naill orchwyliaeth ar gyfer y llall.

17Tua’r dwyrain chwech o Lefiaid, tua’r gogledd pedwar beunydd, tua’r deau pedwar beunydd, a thuac Asuppim dau dau.

18I’r gell tua’r gorllewyn pedwar ar y briffordd, dau ar y gell.

19Dymma ddosparthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.

20Ac Lefiaid Abia ar dryssorau tŷ Dduw, ac ar dryssorau y pethau cyssegredic.

21Meibion Laadan meibion Gerson o Laadan yn bennau tylwyth Laadan y Gersuniaid, Iehieliaid.

22Meibion Iehieli, Zethā, ac Ioel ei frawd ar dryssorau tŷ’r Arglwydd.

23O’r Amramiaid, o’r Izahariaid, o’r Hebroniaid, o’r Ozieliaid.

24A Sebuel mab Gersom, mab Moses olygwr ar y tryssorau.

25Ac oi frodyr ef o Eleazar Rehabiahu ei fab ef, ac Iesaiahu ei fab yntef, ac Ioram ei fab yntef, a Zichri ei fab yntef, a Selomith ei fab yntef.

26Y Selomith hwnnw ai frodyr ar yr holl dryssorau cyssegredic, y rhai a barodd Dafydd frenin, a’r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd, a’r cantoed, a thywysogion y llu eu cyssegru.

27O’r rhyfeloedd, ac o’r yspail y cyssegrasant i gryfhau tŷ’r Arglwydd.

28A’r hyn oll a gyssegrodd Samuel y gweledudd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, ac Ioab mab Serfia: pob peth a gyssegrasid tann law Selomith ai frodyr.

29O’r Izariaid, Cananiahu ai feibion yn Israel yn swyddogion, ac yn farn-wŷr ar y gwaith oddi allan.

30O’r Hebroniaid Hasabiahu ai frodyr meibion nerthol mil a saith gant mewn swydd Israel o’r tu hwynt i’r Iorddonen tua’r gorllewyn, yn holl waith yr Arglwydd, ac yng-wasanaeth y brenin.

31O’r Hebroniaid Iedia benn o’r Hebroniaid yn ôl ei genedlaethau ef, drwy deuluoedd, yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, ac fe a gafwyd yn eu mysc hwy cryfion nerthol yn Aser Gilead.

32Ai frodyr ef yn feibion nerthol ddwy fil a seith gant o bennau cenedl: a Dafydd y brenin ai gosododd hwynt ar y Rubeniad, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasses, ym mhob gorchwyl Duw, a gorchwyl y brenin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help