Iob 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Iob yn attolwg i Dduw ystyried wrth ei adfyd ef, ac edrych ar ei fuchedd ef: a byrhau ei oes rhac ei blyned.

1Marw ydwyf er fy mod yn fyw: arnaf fy hun y gadawaf fyng-hŵyn, ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

2Dywedaf wrth Dduw, na farna fi yn euog: gwna i mi ŵybod pa ham yr ymrysoni a mi.

3Ai dâ i ti orthrymmu, a diystyru llafur dy ddwylaw? a llwyddo cyngor yr annuwolion?

4Ai llygaid o gnawd sy i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?

5A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dŷn? dy flynyddoedd di fel blynyddoedd gŵr?

6Pan geisi fy anwiredd: a phan ofynni am fy mhechod?

7Ti a ŵyddost nad ydwyf euog: ac nid a waredo allan o’th law di.

8Dy ddwylaw di a’m gweithiasant, ac am cyd-wnaethant o amgylch: gan hynny a ddifethi di fi?

9Cofia attolwg mai fel clai y gwnaethost fi: ac i’r pridd y dygi fi drachefn.

10Oni thywelltaist fi fel llaeth? ac oni cheulaist fi fel caws?

11Ti a’m gwiscaist i â chroen, ac â chnawd: ti a’m cyssylltaist fi ag escyrn, ac â giau.

12Bywyd, a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy yspryd.

13A’r rhai hynny a guddiaist di yn dy galon: gwn fod hyn gennit.

14O phechais, ti a’m gwiliaist: ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd.

15Os ydwyf annuwiol gwae fi, ac os cyfiawn ydwyf ni chodaf fy mhen, llawn o warthrudd, ac yn gweled fyng-hystudd.

16Cynnydded hêla fi fel llew: er hynny ti a ddychweli, ac a wnei yn rhyfedd a mi.

17Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthif: llawer, ac amryw arnaf.

18Pa ham gan hynny y dygaist fi allan o’r gro’th: buaswn farw, fel na’m gwelse llygad.

19[O na] byddwn megis pe na buaswn: ducsid o’r bru i’r bedd.

20Ond ychydig fy nyddiau, peidied, cilied oddi wrthif: fel y cryfhauwyf ychydig.

21Cyn myned o honof lle ni ddychwelaf, i dîr tywyllwch a chyscod angeu.

22Tir cyn dywylled a’r fagddu, chyscod angeu, ac heb drefn: lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help