Galarnad Ieremi 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.

1Cofia ô Arglwydd beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwradwydd.

2Ein etifeddiaeth ni a roddwyd i estroniaid: a’n tai i ddieithriaid.

3Ymddifaid ydym heb dadau, a’n mammau megis gweddwon.

4Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian: ein coed sy yn dyfod mewn cyfnewid.

5Yr ydys yn ein herlid ni yn dôst: blinasom nid oes gorphywystra i ni.

6Gwasanaethasom yr Aiphtiaid Assyriaid yn nawr i gael digon o fara.

7Ein tadau a bechasant, y rhai nid ydynt yn nawr: ninnau sy yn dwyn eu cosp hwynt.

8Gweision sy yn llywodraethu arnom ni, heb[ fod] a’n gwaredo oi llaw hwynt.

9[Mewn enbydrwydd] am ein henioes y dygasom ein bara i mewn o herwydd y cleddyf yr anialwch.

10Ein croen a dduodd fel ffwrn gan newyn tôst.

11Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Sion:’r morwynion yn ninasoedd Iuda.

12Crogasant dywysogion ai dwylo, ni pherchid wynebau yr henaf-gwŷr.

13Hwynt a gymmerasant y gwyr ieuaingc i falu: a’r llangciau a lewygasant tann coed.

14Yr henaf-gwŷr a beidiasant a’r porth: gwŷr ieuaingc ai cerdd.

15Darfu llawenydd ein calon: a’n dawns a drôdd yn alar.

16Syrthiodd y goron oddi am ein penn ni: gwae ni yn awr bechu o honom.

17Am hyn y mae ein calon yn ofidus, am hyn y tywyllodd ein llygaid,

18O herwydd mynydd Sion yr hwn a anrheithiwyd: ac y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.

19Ti Arglwydd a barhei byth: a’th orsedd-faingc yn oes oesoedd.

20Pa ham yr anghofi dy nyni byth: y gadewi di ni dros hîr ddyddiau?

21Dychwel nyni ô Arglwydd attat ti, ac ni a ddychwelwn: adnewydda di ein dyddiau megis cynt.

22Eithr yr ydwyt ti yn hytrach yn llwyr wrthod ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.

Terfyn Galar-nad Ieremi

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help