1A phan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nêf yng-hylch hanner awr.
2Ac mi a welais y saith angel y rhai oeddynt yn sefyll ger bron Duw, a saith vdcorn a roddwyd iddynt.
3Yna angel arall a ddaeth, ac a safodd ger bron yr allor a thusser o aur ganddo, a llawer o arogl-darth a roed iddo ef, i offrymmu gyd â gweddiau yr holl sainct, ar yr allor aur, yr hon sydd ger bron yr orsedd-faingc.
4A mwg yr arogl-darth yng-hyd â gweddiau’r sainct, a aethant i fynu ger bron Duw, o law’r angel.
5A’r angel a gymmerth y thusser, ac ai llanwodd hi â thân o’r allor, ac ai bwriodd i’r ddaiar, ac yr oedd lleisiau, a tharânau, a mellt, a daiar-gryn.
6Yna y saith angel y rhai oeddynt a’r saith vdcorn ganddynt, a wnaethant eu hunain yn barod i ganu’r vdcyrn.
7A’r angel cyntaf a ganodd yr vdcorn, ac yr ydoedd cenllysc a than wedi cymmyscu â gwaed, ac hwy a fwriwyd i’r ddaiar, a thraian y coed a loscwyd, a’r holl las-wellt a loscwyd.
8A’r ail angel a ganodd yr vdcorn, a bwriwyd i’r môr megis mynydd mawr yn llosci â thân, a thraian y môr a aeth yn waed,
9A thraian y credaduriaid y rhai oeddynt yn fyw yn y môr, a fuant feirw, a thraian y llongau a ddinistriwyd.
10A’r trydydd angel a ganodd yr vdcorn, a sêren fawr a syrthiodd o’r nêf, yn llosci fel ffagl, ac hi a syrthiodd i draian yr afonydd, ac i ffynhonnau y dyfroedd,
11A henw’r seren a elwir y wermod, am hynny trydedd ran y dyfroedd a aethant yn wermod, a llawer o ddynion a fuant feirw, o waith y dyfroedd hynny, o blegit eu gwneuthur hwynt yn chwerw.
12A’r pedwerydd angel a gânodd yr vdcorn, a tharawyd traian yr haul, a thraian y lleuad, a thraian y sêr, nes tywyllu eu traian hwynt, y dydd, fel na lewyrche ei draian ef, ac yn yr vn môdd y nôs.
13Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg trwy ganol y nêf, gan dywedyd â llais vchel, Gwae, gwae, gwae i’r rhai sy yn trigo ar y ddaiar, rhac y lleisiau eraill i vdcorn y tri angel, y rhai yddynt etto i vdcânu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
