Genesis 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.1 Marwolaeth Sara. 4 Abraham yn prynu iddi feddrod. 19 Claddedigaeth Sara.

1Ac oes Sara ydoedd gan-mlhynedd a saith-mlhynedd ar hugain flynyddoedd oes Sara.

2A Sara a fu farw yng-haer Arbah, honno Hebron yn nhîr Canaan, ac Abraham aeth i alaru am Sara, ac i wylofain hi.

3Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei marw ac a lefarodd wrth feibion Heth gan-ddywedyd:

4Dieithr ac alltud ydwyfi gyd a chwi; rhoddwch i mi etifeddiaeth beddrod gyd a chwi, fel y claddwyf fy marw o’m gwydd.

5A meibion Heth a attebasant Abraham gan ddywedyd wrtho.

6Clyw ni fy arglwydd, tywysog Duw ti, yn ein plith: cladd dy farw yn ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb o honom ni ei fedd i ti, i gladdu dy farw.

7Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymmodd i bobl y tîr i feibion Heth,

8Ac a ymddiddanodd a hwynt gan ddywedyd: os yw eich ewyllys at gladdu fy marw o’m gŵydd, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Ephron fab Zohar:

9Ar roddi o honaw ef i mi yr ogof Machpelah, yr hon eiddo ef, ac yng-hwrr ei faes, er ei llawn o arian rhodded hi i mi yn etifeddiaeth beddrod yn eich plith chwi.

10Ac Ephron oedd yn aros ym-mysc meibion Heth: yna Ephron yr Hethiad a attebodd Abraham, lle y clywodd holl feibion Heth: yng-wydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd:

11Nage fy arglwydd clyw fi, rhoddais y maes i ti, a’r ogof yr hon ynddo, i ti y rhoddais hi, yng-wydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.

12Yna Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tîr.

13Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tîr, gan ddywedyd: etto os tydi ô na’m gwrandewit fi: rhoddaf werth y maes, cymmer gennif ac mi a gladdaf fy marw yno.

14Ac Ephron a attebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,

15Gwrando fi fy arglwydd, y tîr bedwar cant sicl o arian, beth yw hynny rhyngof fi a thithe? am hynny cladd dy farw.

16Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron, a phwysodd Abraham i Ephron yr arian y rhai a ddywedase efe lle y clybu meibion Heth: pedwar-cant sicl o arian cymmeradwy ym mhlith marchnad-wyr.

17Felly y siccrhauwyd maes Ephron yr hwn ym-Machpelah, yr hon o flaen Mamre, y maes a’r ogof yr hon ynddo, a phôb pren yr hwn yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,

18Yn feddiant i Abraham, yng-olwg meibion Heth gyd a phawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.

19Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig, yn ogof maes Machpelah ar gyfer Mamre, honno Hebron yn nhir Canaan.

20Felly y siccrhauwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham yn etifeddiaeth beddrod, oddi wrth feibion Heth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help