Ecclesiasticus 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Cynneddfau doethineb. 11 Atteb yn erbyn gan escuso­dion pechaduriaid.

1Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd a wna hynny, a’r hwn sydd yn dal gŵybodaeth y gyfraith ai caiff hi.

2Fel mam y cyferfydd hi ag ef, ac fel gwraig forwynaidd y derbyn hi ef.

3Hi ai portha ef â bara deall, a ai dioda ef â dwfr doethineb.

4Os siccrheir ef wrthi hi, ni ogwydda efe: os yngymnal efe wrthi hi ni wradwyddir ef.

5Hi ai cyfyd goruwch ei gymydogion, ac a egyr ei safn ef yng-hanol y gynnulleidfa.

6Llawenydd a choron gorfoledd a gaiff efe: ac hi a rydd iddo enw tragywyddol yn etifeddiaeth.

7Eithr dynnion ansynhwyrol ni chânt afel arni hi.

8Gwŷr pechadurus hefyd ni chânt ei gweled hi: pell yw hi oddi wrth falchder, a gwŷr celwyddog ni chofiant hi.

9Nid gweddus clôd yng-enau pechadur,

10O blegit nid yr Arglwydd ai hanfonodd hi iddo ef: canys trwy ddoethineb y treuthur clôd, a’r Arglwydd ai llwydda ef.

11Na ddywet o herwydd yr Arglwydd yr ydwyf fi ymmaith: o blegit ni ddylit ti wneuthur yr hyn sydd ddrwg ganddo ef.

12Na ddywet, efe a’m lluniodd i, o blegit nid rhaid iddo ef wrth ŵr pechadurus.

13Câs gan yr Arglwydd bôb ffieidd-dra, ac nid da yw hynny gan y rhai ai hofnant ef.

14Efe Gen.1.27.a wnaeth ddŷn o’r dechreuad, ac ai gadawodd ef yn llaw ei gyngor ei hun

15Os mynni, ti a elli gadw y gorchymynnion, a gwneuthur ffyddlondeb gymmeradwy.

16Efe a osododd o’th flaen di dân a dwfr estyn dy law at yr hwn a fynnech di.

17[Y mae]Ier.21.8.o flaen dynion enioes ac angeu.

18A’r hyn a fynno efe a roddir iddo ef.

19O blegit mawr yw doethineb yr Arglwydd, ac y mae yntef yn gryf o allu, ac yn gwcled pôb peth.

20Hefyd Psal.34.15,16. hebr.4.13.y mae ei olwg ef ar y rhai sy yn ei ofni ef, ac efe a fyn adnabod holl waith dŷn.

21Ni orchymynnodd efe i neb wneuthur yn annuwiol, ac ni roddes efe gennad i neb i bechu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help