1.Thessaloniaid 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Er mwyn na ddeffygient dan y groes, 2 y mae efe yn canmol ei astudrwydd ei hun yn pregethu, 13 a’r eiddynt hwythau, yn vfyddhau, 18 y mae efe yn ymescusodi am ei fod ymmaith, ac na alle ddyfod, ac egluro ei galon iddynt.

1Canys chwi eich hunain a wyddoch frodyr, ein dyfodiad ni i mewn attoch, nad ofer fu.

2Eithr wedi i ni ragddioddef, a chael dir draha yn Act.16.12.Philippi (fel gwyddwch) bûom hyderus yn ein Duw i draethu i chwi Efengyl Duw trwy fawr ymdrech.

3Canys ein annog ni nid ydoedd o hud, nac o aflendid, nac o dwyll.

4Eithr fel yr oeddem yn gymmeradwy gan Dduw fel i’r ymddyriedid i ni am yr Efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel rhai yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau.

5O blegit ni buom ni er ioed mewn ymadrodd gweniaithus fel y gwyddoch chwi, nac yn achlysur i gubydd-dod, Duw yn dyst.

6Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill.

7Pan allasem fod yn drwm fel Apostolion Crist, eithr yr oeddem yn dyner yn eich mysc, megis mammaeth yn cynhesu ei phlant.

8Felly mewn awydd i chwi y gwelsom yn dda gyfrannu i chwi, nid yn vnic Efengyl Dduw, ond hefyd ein heneidiau ein hunain, am eich bod yn annwyl gennym.

9Canys cof gennych frodyr Act.20.34. 2.Cor.1.12. 2.Thess.3.8.ein llafur a’n poen, canys nyni yn gweithio ddydd a nos rhag pwyso ar yr vn o honoch, a bregethasom i chwi Efengyl Dduw.

10Tystion ydych chwi, a Duw mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, ac mor ddiargyoedd yr ymddugasom ni tu ag attoch chwi y rhai ydych yn credu.

11Megis y gŵyddoch pa fodd y cynghorasom chwi, ac y cyssurasom bôb vn o honoch (megis tad ei blant ei hun)

12Ac yr ymbiliasom ar Ephes.4.1.|EPH 4:1. philip.1.27.|PHP 1:27. col.1.10.rodio o honoch yn deilwng i Dduw yr hwn a’ch galwodd iw deyrnas a’i ogoniant.

13O blegit hyn hefyd yr ydym ni yn diolch i Dduw yn ddibaid o herwydd pan dderbyniasoch gennym air pregeth Dduw, na’s derbyniasoch fel gair dyn, eithr fel y mae yn ddilys yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn gweithio ynoch y rhai ydych yn credu.

14Canys, frodyr, chwi a aethoch yn ddilyn-wŷr eglwysi Duw y rhai yn Iudæa ydynt yng-Hrist Iesu, am i chwi hefyd ddioddef yr vn rhyw bethau gan wŷr eich gwlad, a hwythau gan yr Iddewon.

15Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a’i prophwydi eu hunain, ac a’n herlidiasant nineu, nid ydynt chwaith yn rhyglyddu bodd Duw, ac y maent yn gwrthwynebu pôb dyn,

16Gan wahardd i ni bregethu i’r cenhedloedd (fel yr iacheid hwy) i gyflawni eu pechodau yn oestadol, canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.

17Am ein gwneuthur frodyr yn ymddifaid am danoch dros ychydig amser yngolwg ac nid yng-halon, Ruf.1.11.y buom fwy astud i gweled eich wyneb, gan fawr awydd.

18Am hynny’r ewyllysiasom ddyfod attoch (myfi Paul yn ddiau vn-waith a dwywaith hefyd) eithr lluddiodd Satan nyni.

19Canys beth yw ein gobaith, neu llawenydd neu goron gorfoledd? ond chwychwi yng-ŵydd ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad ef?

20Canys chwi ydych ein gogoniant a’n llawenydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help