Esay 63 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LXIII.Crist yn dinistrio ei elynnion, ac yn cynnescaeddu ei ffyddlonniaid ag amryw ddaioni.

1Pwy hwn yn dyfod o Edom, yn wŷch ei ddillad o Bozra? hwn hardd yn ei wisc, yn ymdaith yn amlder ei rymm? myfi yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, gadarn i iachaû.

2Pa ham yn gôch yn dy ddillad, a’th wiscoedd fel yr hwn a sathre mewn gwinwryf?

3Sethrais y gwin-wryf fy hunan, ac o’r bobl nid vn gyd â mi, am hynny y sathraf hwynt yn fy nig, ac y mathraf hwynt yn fy llidiawgrwydd, ai gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a’m holl wiscoedd a lychwinaf.

4Canys dydd dial wrth fyng-halon a blwyddyn fyng-waredigion a ddaeth.

5Edrychais hefyd, ac nid gynnorthwyudd, rhyfeddais hefyd am nad gynhaliwr, yna fy mraich a’m hachubodd, a’m llidiawgrwydd a’m cynhaliodd.

6Felly y sathraf y bobl yn fy nîg, ac y meddwaf hwynt yn fy llidiawgrwydd: ai goruwchafiaeth a ddescynnaf i’r llawr.

7Coffâf drugaredd yr Arglwydd, moliant Duw, megis am yr hyn oll a dâlodd Duw i ni, ac amlder llesâd tŷ Israel, yr hyn a dalodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau.

8Ac efe a ddywedodd diau fy mhobl maufi hwy, meibion ni ddywedant gelwydd, ac efe a aeth yn iachawdwr iddynt,

9Yn eu holl gystudd hwynt nid cystudd, ac Angel ei gydrycholdeb ai hachubodd hwynt, er mwyn ei gariad, ac er mwyn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe ai cludodd hwynt, ac ai harweiniodd bôb amser.

10A hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Yspryd sanctaidd ef, fel y trôdd efe yn elyn iddynt, yr ymladdodd efe yn eu herbyn hwynt.

11Yna y cofiodd ddyddiau Moses gynt, ai bobl, mae’r hwn ai dygodd hwynt i fynu o’r môr gyd â bugeiliaid ei braidd? mae’r hwn a osododd ei Yspryd sanctaidd oi fewn ef?

12Yr hwn ai tywysodd â deheu-law Moses, ac ai ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd oi blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragywyddol,

13Gan eu harwein hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch heb dramgwyddo o honynt.

14Fel y descyn anifail i’r dyffryn, y gwnaiff Yspryd yr Arglwydd iddo orphywys: felly y tywysaist dy bobl i wneuthur it enw gogoneddus.

15Edrych o’r nefoedd a gwêl, o annedd dy sancteiddrwydd, a’th ogoniant: mae dy zêl, a’th gadernid, lluosogrwydd dy dosturiaethau, a’th drugareddau? hwynt a ymattaliasant oddi wrthif?

16Canys ti yw ein tâd ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel, ti Arglwydd dâd i ni, a’n gwaredudd: dy enw ’r ioed.

17Pa ham Arglwydd y gwnaethost i ni gyfeiliorni o’th ffyrdd? y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? dychwel er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.

18Tros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd ein gwrthwyneb-wŷr a fathrasant dy gyssegr di.

19Nyni oeddem er ioed nad oeddit ti yn arglwyddiaethu arnynt hwy, na elwid dy enw arnynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help