Diharebion 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.

1Gwell Pen.28.6.yw’r tlawd â rodio yn ddiragrith: na’r yr hwn sydd draws ei wefusau, ac yntef yn ffôl.

2Yr enaid heb ni ŵyr ddrwg ar traed rhy gyflym a bechant yr vn funyd.

3Ffolineb dŷn ai trŷ oddi ar y ffordd: ai galon a ddigia yn erbyn yr Arglwydd.

4Cyfoeth a chwanega lawer o gefeillion: a’r tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymmydog.

5 Dan.19.19.(sic) Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddiangc.

6Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gefaill i’r hael.

7Holl frodyr y tlawd ai casânt ef: îe ei gyfeillion a gadawant: er maint a ymnheddo, ni throant atto.

8A neb sydd gall a gâr ei enaid: ac a geidw ddeall er mwyn ennill daioni.

9Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a thraethwr celwyddau a ddifethir.

10Nid gweddaidd i ffol lawenfyd: anweddeiddiach o lawer i wâs arglwyddiaethu ar bennaethiaid.

11Synnwyr dŷn a oeda ei ddigofaint: a harddwch yw iddo fyned tros fai.

12Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuangc: ond ei ewyllys da sydd megis gwlith ar las-wellt.

13 Pen.20.1.|PRO 20:1. Pen.17.21.|PRO 17:21. Pen.21.9 Mab ffôl sydd orthrymder iw dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.

14Tŷ, a chyfoeth ynt etifeddiaeth y tadau: ond Pen.18.21.rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog.

15Syrthni a bar drym-gwsc: ac enaid twyllodrus a newyna.

16Y neb a gadwo’r gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a ysceulusa ei ffyrdd fydd marw.

17Y neb a gymmero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r Arglwydd: ai rodd a delir iddo drachefn.

18Cerydda dy fab tra fyddo gobaith: ac nac arbeded dy enaid ef iw ddifetha.

19Bydd dra digofus wrth faddeu bai: os ti ai gwaredi y waith honno, y cospi amser arall yn fwy o lawer.

20Gwrando gyngor a chymmer addysc, fel y byddech ddoeth yn dy ddiwedd.

21Bwriadau lawer sydd yng-halon dŷn: ond cyngor yr Arglwydd a saif.

22Trugaredd yw’r peth a ddyle ddŷn fwyaf ei ddeisyfu: ond gwell yw’r tlawd na’r gŵr celwyddog.

23Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd: a’r neb fyddo llawn o honaw a erys heb i ddrwg ymweled ag ef.

24Y dŷn swrth a gudd ei law yn ei fynwes: ac ni escyn hi at ei enau.

25 Pen.26.15.|PRO 26:15. Pen.21.11 [Os] tarewi di watwarwr yna’r ehud fydd cyfrwysach, a phan geryddech y dehallus efe a ddeall wybodaeth.

26Mab gwradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad: ac a yrr ei fam ar grwydr.

27Fy mab, paid a gwrando yr addysc a bar i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.

28Tyst y fall a watwar farn: a genau’r drygionus a lwngc anwiredd.

29Barn sydd barod i’r gwatwar-wŷr: a chleisiau i gefn y ffyliaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help