1 Eithr am ysprydol ddōniau (frodyr) ni fynnwn i chwi na’s gŵyddech.
2Chwi a ŵyddoch mai cenhedloedd oeddech, y rhai a ddygid at eulynnod mudion, fel eich tywysid.
3Am hynny yr wyf yn yspysu i chwi, nad oes neb Marc.9.39.|MRK 9:39. ioan 13.13.|JHN 13:13. philip.2.11.yn llefaru trwy Yspryd Duw, yn galw yr Iesu yn escymmun-beth: ac nad oes neb a all ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr yn yr Yspryd glân.
4Ac y mae amryw ddonniau, eithr yr vn Yspryd.
5Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr vn Arglwydd.
6Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr vn Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.
7Eithr eglurhad yr Yspryd a roddir i bob vn er lles-hâd.
8Sef i vn y rhoddir trwy yr Yspryd ymadrodd doethineb, ac i arall ymadrodd gŵybodaeth trwy yr vn Yspryd.
9Ac i arall ffydd trwy yr vn Yspryd, ac i arall donniau i iachau trwy yr vn Yspryd.
10Ac i arall wneuthur gwrthiau, i arall prophwydoliaeth, ac i arall iawn wahaniaeth ysprydoedd, ac i arall amryw dafodau, ac i arall gyfieithiad tafodau.
11 Ruf.12.4.|ROM 12:4. ephes.4.8. A’r holl bethau hyn a weithreda yr vn rhyw Yspryd can rannu i bob vn ar nailldu megis yr ewyllysia efe.
12Canys megis y mae vn corph ac iddo lawer o aelodau, a holl aelodau vn corph cyd baent lawer, ydynt vn corph, felly Crist hefyd.
13O herwydd trwy yr vn Yspryd i’n bedyddiwyd yn vn corph, pa vn bynnag ai Iddewon ai Groegwŷr, ai caethion, ai rhyddion, ac ni a wnaethbwyd i fod yn yr vn Yspryd.
14Canys nid yw y corph vn aelod, eithr llawer.
15O dywed y troed, can nad wyf y llaw, nid wyf o’r corph, ai am hynny nid yw efe o’r corph?
16Os dywed y glust, can nad wyf lygad, nid wyf o’r corph, ai am hynny nid yw hi o’r corph?
17Os yr holl gorph fydde lygad, pa le y bydde y clywed? neu os y cwbl fydde clywed, pa le yr arogliad?
18Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, pob vn o honynt yn y corph wrth ei ewyllys ef,
19Canys pe baent oll vn aelod, pa le y bydde y corph?
20Yr awr hon y mae aelodau lawer, eithr vn corph.
21Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, nid rhaid i mi wrthit, nac eil-waith y pen wrth y traed, nid rhaid i mi wrthych:
22Eithr yn fwy hytrach oll, yr aelodau hynny a dybir eu bod yn waelaf, ydynt yn angenrheidiaf.
23A’r i’r corph y rhai a dybiwn yn amharchedicaf y gosodwn fwy o barch yn eu cylch, a’n haelodau anhardd sy â mwy harddwch ganddynt.
24Sef afraid yw i’n hardd ni, eithr Duw a gyd-dymherodd y corph, can roddi mwy o barch i’r yr oedd yn ddeffygiol:
25Rhag bod anghydfod yn y corph, eithr bod i’r aelodau ofalu tros eu gilydd yr vn peth.
26Ac os doluria vn aelod, yr holl aelodau a gyd-ddoluriant, os anrhydeddir vn aelod, yr holl aelodau a gyd-lawenhânt.
27Ac chwi ydych yn gorph Crist, ac yn aelodau mewn rhann.
28 Ephes.4.11. A Duw a osododd rai yn yr eglwys, yn gyntaf Apostolion, yn ail prophwydi, yn drydydd athrawon, yna y rhai a wnaant wrthiau, wedi hynny doniau i iachâu, cynhorthwy-wŷr, llywodraeth-wŷr, rhywiogaethau ieithoedd.
29Ai Apostolion pawb? ai prophwydi pawb? ai athrawō pawb? a wna pawb wyrthiau?
30A oes gan bawb donniau i iachau? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu?
31Eithr deisyfiwch y donniau goref, ac etto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.