1Y dydd Ac wele, Mar.16.14.|MRK 16:14. Ioh.20.19. Ac hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt: tangnheddyf i chwi.
37Hwythau wedi brawychu, ac ofni a dybiasant weled o honynt yspryd.
38Dywedodd yntef wrthynt, pa ham i’ch trallodir, a pha ham y mae traws-feddyliau yn codi yn eich calonnau?
39Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi yw efe: teimlwch fi a gwelwch: canys nid oes i yspryd gnawd, ac escyrn fel y gwelwch fôd i mi.
40Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.
41Tra yr oeddynt hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt hwy, a oes gennych ymma ddim bwyd?
42A hwy a roesant iddo ef ddarn o byscodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.
43Yntef a’i cymmerodd, ac a’i bwyttaodd yn eu gŵydd hwynt.
44Ac efe a ddywedodd wrthynt: y rhai hyn yw yr geiriau a ddywedais i wrthych chwi, pan oeddwn etto gŷd â chwi, bôd yn rhaid cyflawni pôb peth sydd yn scrifennedic am danaf yng-hyfraith Moses, a’r prophwydi, a’r Psalmau.
45Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y dehallent yr scrythyrau.
46Ac efe a ddywedodd wrthynt, felly y mae yn scrifennedig, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:
47A phregethu edifeirwch, a maddeuant pechodau yn ei enw ef ym-mhlith y cenhedloedd oll, gan ddechreu yn Ierusalem.
48Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.
49Ac wele, mi a anfonaf Ioh.15.26.|JHN 15:26. Act.1.4addewid fy Nhâd i chwi: arhoswch yn ninas Ierusalem, hyd oni wiscer chwi â nerth o’r vchelder.
50Ac efe a’u dug hwynt allan hyd yn Bethania, ac a gododd ei ddwylaw, ac a’i bendithiodd hwynt.
51Ac fe a ddarfu, tra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, Mar.16.9.|MRK 16:9. Gwerth.9.(sic.)ymadel o honaw ef oddi wrthynt: ac efe a dducpwyd i fynu i’r nef.
52A hwy wedi iddynt ei addoli ef a ddychwelasant i Ierusalem â llawenydd mawr.
53Ac yr oeddynt yn oestadol yn y Deml, yn moli, ac yn clodfori Duw. Amen.
Terfyn Efengyl yn ôl Luc.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
