1Ac yr ydym yn attolwg i chwi frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynhulliad atto ef,
2Na’ch sylfer yn fuan o’r meddwl, ac na’ch cynhyrfer, na chan yspryd, na chan air, na chan lythr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai ddydd Crist yn gyfagos.
3 Ephes.5.6. Na thwylled nêb chwi trwy vn modd amnes dyfod ymadawiad yn gyntaf, a datguddio y dyn pechadurus mâb destruw.
4Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymdderchafu yn erbyn pôb dim a elwir yn Dduw, neu a addolir: hyd onid eistedd megis Duw yn nheml Dduw, gan ei ddangos ei hun mai efe yw Duw.
5Ond cof gennych chwi pan oeddwn etto gyd â chwi, ddywedyd o honof y pethau hyn?
6Ac yr awr hon y gwyddoch y rhwystr sydd, iw ddatcuddio ef yn ei amser.
7Canys dirgelwch yr anwiredd sydd yn gweithio eusus, yn vnic yr hwn sydd yn awr yn rhwystro, a rwystra nes myned a’i dynnu ymmaith.
8Ac yna y datcuddir yr anwir hwnnw, Esai.11.4.yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag Yspryd ei enau, ac a ddileua â disclaerdeb ei ddyfodiad.
9[Sef] yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan mewn pob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau,
10Ac mewn pob twyll anghyfiawnder yn y rhai colledig, gan na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y cedwid hwynt.
11Am hynny y denfyn Duw iddynt amryfusedd cadarn, fel y credant gelwyddau,
12Fel y barner yr holl rai ni chredasant i’r gwirionedd, ond a fuāt fodlō i anghyfiawnder.
13Eithr nyni a ddylem ddiolch yn oestad i Dduw trosoch, frodyr annwyl gan yr Arglwydd, o blegit i Dduw o’r dechreuad eich dethol chwi i iechydwriaeth, trwy sancteiddiad yr Yspryd, a ffydd i’r gwirionedd.
14I’r hyn y galwodd efe chwi trwy ein Efengyl i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15Am hynny frodyr, byddwch safadwy, a chynheliwch y traddodiadau y rhai a ddyscasoch ai trwy ymadrodd, ai trwy ein Epistol ni.
16Ac yntef ein Harglwydd Iesu Grist a’n Duw, sef ein Tad yr hwn a’n carodd, ac a roddes i ni ddiddanwch tragywyddol a gobaith da trwy râs.
17A ddiddâno eich calonnau, ac a’ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
