1Ac Iehosaphat ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef: ac a orthrechodd ar Israel.
2Ac efe a roddodd fyddin ym mhob vn o gaeroc ddinasoedd Iuda: ac a roddes raglawiaid yng-wlâd Iuda, ac yn ninasoedd Ephraim y rhai a ennillase Asa ei dad ef.
3A’r Arglwydd a fu gyd ag Iehosaphat: canys efe a rodiodd1.Cron.29.29., yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nid ymofynnodd am Baalim.
4Eithr Duw ei dâd a geisiodd efe, ac yn ei orchymynnion ef y rhodiodd efe: ac nid yn ôl arfer Israel.
5Am hynny’r Arglwydd a siccrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef, a holl Iuda a roddasant anrhegion i Iehosaphat: felly’r ydoedd iddo ef olud, ac anrhydedd yn helaeth.
6Ac efe a dderchafodd ei galon yn ffyrdd yr Arglwydd: ac efe a fwriodd ymmaith hefyd yr vchelfeudd a’r llwynau o Iuda.
7Yn y drydedd flwyddyn oi deyrnasiad, efe a anfonodd ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadia, a Zacharia, Nathaneel hefyd a Michaiahu, i ddyscu drwy ddinasoedd Iuda.
8A chyd a hwynt y Lefiaid hyn, Semeiahu, a Nethaniahu, a Zebadiahu, ac Asael, a Semiramoth, ac Iehonathan, ac Adoniahu, Tobiahu hefyd, a Thob-adoniahu y Lefiaid: a chyd a hwynt Elisama, ac Ioram yr offeiriaid.
9A hwynt a ddyscasant yn Iuda, ac chyd a hwynt llyfr cyfraith yr Arglwydd: felly’r amgylchasant hwy holl ddinasoedd Iuda, ac y dyscasant y bobl.
10Ac arswyd yr Arglwydd oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd y rhai o amgylch Iuda: fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Iehosaphat.
11A o’r Philistiaid oeddynt yn dwyn i Iehosaphat anrhegion, a theyrnged o arian: yr Arabiaid hefyd oeddynt yn dwyn iddo ef fân yscrubliaid, saith mîl, a saith gant o hyrddod, a saith mil, a saith gant o fychod.
12Felly Iehosaphat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynnyddu yn oruchel: ac efe a adailadodd yn Iuda balâsau, a dinasoedd tryssorau.
13A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Iuda: a rhyfel-wŷr cedyrn nerthol yn Ierusalem.
14Ac dymma eu rhifedi hwynt yn ôl tŷ eu tadau: o Iuda yn dywysogion y miloedd Adna y tywysog, a chyd ag ef dry-chant mîl cedyrn nerthol.
15Ac yn nesaf atto ef Iehohanan y tywysog: a chyd ag ef ddau cant a phedwar vgain mil.
16A cher llaw iddo ef Amasia mab Zichri yn ei ymroddi ei hun i’r Arglwydd: a chyd ag ef ddau cant mîl cedyrn nerthol.
17Ac o Beniamin Eliada yn cadarn nerthol: a chyd ag ef ddau can-mil yn arfogion o fwâu, a thariannau.
18A cher llaw iddo ef Iehozabad: a chyd ag ef gant a phedwar vgain mil wedi ymwregysu i’r llû.
19Y rhai hyn oeddynt yn gwasanaethu’r brenin heb law y rhai a roddase, y brenin yn y dinasoedd caeroc drwy holl Iuda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
