Diharebion 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.

1Diharebion Salomon.Pen.15.20.Mâb doeth a lawenhâ ei dâd, a mâb ffôl a dristhâ ei fam.

2Ni thyccia tryssorau drygioni, ond cyfiawnder a wared rhag angeu.

3Ni edu’r Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymmaith gyfoeth y drygionus.

4Y neb a weithio â llaw dwyllodrus fydd tlawd: ond llaw y rhai llafurus ai cyfoethoga hwynt.

5Mab synhwyrol yw yr hwn a gascl amser haf: ond mab gwradwyddus yw yr hwn a gwsc amser cynhaiaf.

6Bendithion a fyddant ar ben y cyfiawn, ond trawsedd a gâe ênau y drygionus.

7Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedic, ond enw y drygionus a bydra.

8Y galon ddoeth a dderbyn y gorchymynnion, ond y ffôl ai blina ai wefusau ei hun.

9Y neb a rodio yn ddiragrith a rodia yn ddiogel, ond y neb a gamdrŷ ei ffyrdd a fydd hynod.

10Y neb a amneidio ai lygad a bair flynder, a’r ffôl ei wefusau ai blina ei hunan.

11Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn, ond trawsedd a gâe ênau y drygionus.

12Casineb a gyfyd cynnenn, 1.Cor.13.4. 1.Pet.4.8.ond cariad a guddia bob camwedd.

13Yng-wefusau y synhwyrol y ceir doethineb, a gwialen i gefn yr angall.

14Y doethion a storiant ŵybodaeth, ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl.

15Cyfoeth y cyfoethog yw caer ei gadernid ef, ond ofn y tlodion yw eu tlodi.

16Gwaith y cyfiawn sydd tu ag at fywyd, ond gwaith y drygionus tu ag at bechod.

17Ffordd i fywyd yw’r neb a gadwo addysc, ond y neb a wrthodo sydd yn cyfeiliorni.

18Gwefusau celwyddog a guddiant gâs, a’r neb a ddywed enllib sydd ffôl.

19Yn amlder geiriau ni phalle fod pechod, ond y neb a attalio ei wefusau sydd synhwyrol.

20Tafod y cyfiawn sydd arian detholedig, ond calon y drygionus ni thâl ddim.

21Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer, ond y ffyliaid o ddiffic synwyr a fyddant feirw.

22Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga, ac ni ddwg orthrymder gyd â hi.

23Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg, a chan ŵr synhwyrol â doethineb.

24Y peth a ofno y drygionus a ddaw iddo, ond y peth a ddeisyfio y rhai cyfiawn ai rhydd iddynt.

25Ni saif y drygionus mwy na’r tro-wynt yn myned heibio: ond y cyfiawn sydd fel sylfaen a beru byth.

26Megis finegr i’r dannedd, a mŵg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb ai gyrrant

27Ofn yr Arglwydd a chwanega y dyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.

28Gobaith y cyfiawn yw llawenydd, ond hyder y drygionus a ddefydd am dano.

29Ffordd yr Arglwydd gadernid i bôb dŷn perffaith: a braw i’r rhai a wnant anwiredd.

30Y cyfiawn nid yscog byth, ond y drygionus ni phresswyliant y ddaiar.

31Genau y cyfiawn a draetha ddoethineb yn ddigonol, a’r tafod anwir a dorrir ymmaith.

32Gwefusau y cyfiawn a gânt ŵybod ewyllys da ond genau’r drygionus a eu trawsedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help