1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micheas y Morastiad yn nyddiau Iotham, Ahas, a Hezeciah brenhinoedd Iuda: yr hwn a welodd efe am Samaria, ac Ierusalem.
2Gwrandewch bobl oll, ystyria dithe y ddaiar ac sydd ynddi, a bydded yr Arglwydd Dduw yn dŷst i’ch erbyn, yr Arglwydd oi Deml sanctaidd.
3Canys wele’r Arglwydd yn dyfod oi le, efe hefyd a ddescyn, ac a gerdd ar vchelderau y ddaiar.
4A’r mynyddoedd a doddant tano ef, a’r glynnoedd a ymholldant fel cŵyr o flaen y tân, fel y dyfroedd a fwrir ar y goriwared.
5Hyn ei gyd am anwiredd Iacob, ac am bechod tŷ Israel, beth anwiredd Iacob? onid Samaria? pa rai vchel-leoedd Iuda? onid Ierusalem?
6Am hynny y gosodaf Samaria yn garnedd faes i blannu gwin-llan, a gwnaf iw cherric lithro i’r dyffryn, a datcuddiaf ei sylfaenau.
7Ai holl ddelwau cerfiedic a ddryllîr, ai holl wobrau a loscir yn tân, ai holl eulynnod a osodaf yn anrhaithiedic: o herwydd o wobr putteindra a casclwyd ac yn wobr putteindra y dychwelir hwynt.
8O herwydd hyn galaraf, ac vdaf, cerddaf yn noeth, ac yn llwm, dygaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion yr estris.
9O herwydd dolurus yw eu harcholl, canys daeth hyd at Iuda, ac hyd borth fy mhobl hyd Ierusalem.
10Na fynegwch yn Gath, gan ŵylo nac ŵylwch: ymdreiglwch llŵch dros dŷ Iosua 18.23. Aphra.
11Dos heibio presswyl-ferch Saphir yn noeth warthus: ni ddaw presswyl-ferch Zaanan allan wrth allor Bethezel: cymmer efe gennwch ei sefyllfan.
12Canys trig-ferch Maroth a fydd ddrwg genddi am y da, canys drwg a ddescynn oddi wrth yr Arglwydd ar borth Ierusalem.
13Presswyl-ferch Lachis rhwym y cerbyd wrth y buan-farch, dechreuad pechod hi i ferch Sion, canys ynot ti y cafwyd anwiredd Israel.
14Am hynny y rhoddi anrhegion i Moresheth Gath: tai Achzib yn gelwydd i freninoedd Israel.
15Dygaf etto orescynn-wr i ti presswylferch Maresa, daw hyd Adulam gogoniant Israel.
16Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr: canys caethgludir hwynt oddi wrthit.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
