Zacharias 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Prophwydoliaeth am Grist.

1Ac efe a ddangosodd i mi Iosuah’r arch-offeiriad yn sefyll ger bron Angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheu-law ef iw wrthwynebu.

2A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, cerydded yr Arglwydd dy di Satan, a’r Arglwydd yr hwn a ddewisodd Ierusalem a’th geryddo: onid pentewyn hwn wedi ei achub o’r tân?

3Ac Iosuah ydoedd wedi ei wisco â dillad budron, ac yn sefyll yng-ŵydd yr Angel.

4Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, bwriwch ymmaith y dillad budron oddi am dano ef: wrtho yntef y dywedodd, wele bwriais heibio dy anwiredd oddi wrthit, a gwiscaf di hefyd â newid ddillad.

5A dywedais hefyd, rhoddant meitr têg ar ei ben ef, a rhoddasant meitr têg ar ei ben ef, ac ai gwiscasant â dillad, ac Angel yr Arglwydd oedd yn sefyll

6Ac Angel yr Arglwydd a destiolaethodd wrth Iosuah gan ddywedyd:

7Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, os rhodi di yn fy llwybrau, ac os cedwi fyng-hadwriaethau, tithe hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fyng-hynteddoedd, rhoddaf it hefyd lê ym mysc y rhai hyn sydd yn sefyll

8Gwrando attolwg Iosuah’r arch-offeiriad, ti a’th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron, canys gwŷr rhyfeddol yw y rhai hyn: o herwydd wele gwnaf i’m Esa.11.1. Ier.23.5. Ier.33.14.gwâs y blagurun ddyfod.

9Canys wele carrec a roddais ger bron Iosuah, ar vn garrec saith o lygaid, wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd Arglwydd y lluoedd: a mi a symmudaf ymmaith anwiredd y tîr hwn mewn vn diwrnod.

10Y dwthwn hwnnw medd Arglwydd y lluoedd, y geilw vn ar ei gymmydog Esa.2.2. Mic.4.4. Agg.2.10.i ddyfod tan winwydden, a than ffigus-bren.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help