1Onid amser terfynedic i ddyn ar y ddaiar? ai ddyddiau ef megis dyddiau gwâs cyflog?
2Megis y dyheûa gwâs am gyscod: ac y disgwil cyflog-ddyn ei waith:
3Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd: a nosweithiau o boen a osodwyd i mi.
4Os gorweddwn, yna y dywedwn, pa bryd y codaf, ac yr ymedu y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.
5Fyng-nhawd a wiscodd bryfed, a llwch priddlyd: fyng-hroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.
6Fy nyddiau oedd gynt na gwennol gwehydd: ac a ddarfuant heb obaith.
7Cofia mai gwynt fy hoedl: ni ddychwel fy llygad i weled daioni.
8Y llygad a’m gwelodd ni’m gwel i’m herbyn fel na i
9[Fel] y derfydd cwmwl, ac yr aiff ymmaith: felly’r hwn fydd yn descyn i’r bedd ni ddaw i fynu
10Ni ddychwel mwy iw dŷ: ai lê ni’s edwyn ef mwy.
11Gan hynny ni orafunaf i’m genau, mi a lefaraf yng-hyfyngora fy yspryd: myfi a gŵynaf gan ofid fyng-halon.
12Ai môr ydwyf, ai morfil, gan dy fod yn gosod cadwrieth arnaf?
13Pan ddywedwn fyng-wely am cyssura: fyng-orweddfa a esmwythâ oherwydd fy myfyrdod:
14Yna ti a’m brawychit a breuddwydion: ac a’m dychrynit â gweledigaethau.
15Am hynny y dewise fy enaid ymdagu: marwolaeth yn fwy na’m hoedl.
16Ffieiddiais ni byddafi byw byth: paid a mi, canys oferedd fy nyddiau.
17Pa beth dŷn pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno ef?
18Ac ymweled ag ef bob borau? ai brofi ef ar bob moment?
19Pa hŷd heb droi oddi wrthif, ni adewi fi yn llonyd tra llyngcwyf fy mhoeryn.
20Myfi a bechais, beth a wnaf i ti, ô geidwad dŷn, pa ham y gosodaist fi yn nôd i ti: fel y byddwyf yn faich i mi fy hun?
21A pha ham na faddeui di fyng-hamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y pridd y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn forau, ond ni’m
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
