2.Machabæaid 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.2 Timotheus yn blino ’r Iddewon, 3 gweithred annuwiol gwyr Ioppe yn erbyn yr Iddewon a dial ludas arnynt, 9 yr hyn a wnaeth Iudas i’r Iamniaid i’r Arabiaid i’r Caspiaid, 19 i Timotheus ac i Gorgias.

1Wedi gwneuthur yr ammodau hyn Lysias a aeth at y brenin, a’r Iddewon a ymroesant i goledd y ddaiar.

2Ond y tywysogion y lleodd sef, Timotheus, ac Appolonius mab Genneus, hefyd Hieronymus, a Demophon, ac heb law ’r rhain Nicanor pennaeth Cyprus, ni ddiodde­fent iddynt orphywys a gweithio yn llonydd.

3Gwyr Ioppe hefyd a ddibennasant y weithred annuwiol hon, îe, hwy a gynghorasant i’r Iddewon y rhai oedd yn trigo gyd â hwynt ar yddynt hwy ai gwragedd ai plant fyned i long a ddeifeisiassent hwy megis pe buase heb fod creulondeb calon yn eu herbyn hwynt.

4Felly drwy gyfundeb y ddinas y cymmerasant y gyfraith fel gwŷr yn dymuno heddwch, ac heb ddrwgdybied dim hwy a foddasant o honynt wedi iddynt fyned i’r dyfnder nid llai na dau cant o wŷr.

5O herwydd hynny pan glŷbu Iudas wneuthur creulondeb yn erbyn ei genhedlaeth efe a ddangosodd hynny i’r gwŷr oedd gyd ag ef.

6Ac wedi galw ar Dduw y barn-wr cyfi­awn, efe a ddaeth yn erbyn lladdwŷr ei frodyr ac a enynnodd y borthladd o hŷd nôs, ac a loscodd yr yscraffau, ac a laddodd y rhai a ffoasent yno.

7A phan oedd y lle wedi ei gaeu o amgylch efe a aeth ymmaith megis ar fedr dyfod eil­waith a diwreiddio holl bobl gyffredin Ioppe.

8Hefyd pan ddeallodd efe fod yr Iamniaid ar fedr dwyn i ben yr vnrhyw beth yn erbyn yr Iddewon y rhai oeddynt yn trigo gid â hwynt,

9Efe a ddaeth am ben yr Iamniaid o hŷd nôs, ac a loscodd y porthlo a’r llongau yn gymmeint ac i lewyrch y fflam ymddangos hyd yn Ierusalem, pan safent ddeng-milldir ar hugain oddi wrthi hi.

10A phan aethant oddi yno filldir a hanner cwarter pan oedd yn eu bryd fyned yn erbyn Timotheus y ruthrodd o’r Arabiaid arno ef nid llai na phum mil a phum cant o wŷr meirch.

11A phan ymladdasant yn dôst â rhyfel­wŷr Iudas o achos cymmorth Duw yn llwyddo: y Nomadeaid o Arabia wedi eu gorchfygu a ddeisyfasāt ar Iudas roi eu ddeheulaw iddynt dan addo rhoi iddo anifeiliaid, a bôd yn fuddi­ol iddo ef mewn pethau eraill.

12Ac Iudas yn tybied y byddent fuddiol iddo mewn llawer o bethau a gennadhaodd iddynt heddwch, a phan darawsant ddwylo, hwy a ymadawsant iw pebyll,

13Daeth hefyd am ben rhyw ddinas wedi ei chadarnhau â phont, ai chwmpassu â chaerau yr hon a gyfanneddid gan lawer o genhedlaethau cymmyscedig, yr hon a elwid Caspis.

14Ond y rhain am eu bod yn hyderu yng­hadernid eu caeru, ac yn eu stôr o fwydydd, a fuant ddiesceulus, ac a ymserthasant a’r rhai oeddynt gyd ag Iudas, ac ai cablasant hwy, ac a ddywedasant eiriau anghyfreithlawn iw dywedyd.

15Wedi i ryfelwŷr Machabaeus alw ar ben­nadur mawr y byd, yr hwn heb nac offer na defnyddion rhyfel a fwriodd i lawr gaerau Iericho yn amser Iosus, hwy a ruthrasant yn awchus yn erbyn y gaer,

16Ac a orchfygasant y ddinas trwy ewyllys Duw, ac a wnaethant laddfa anguriol, yn gymmeint a bôd llyn ger llaw, yr hwn oedd gwarter mîlldir ô lêd wedi colli gwaed ynddo hyd onid oedd yn llawn.

17Hwy a aethant oddi yno seithcant a dêc a deugain o ystadiau, ac a ddaethant i Characa at y rhai a elwid Iddewon 1.Mac.5.13.Tubin.

18Ond yn wir ni chawsent afel ar Timotheus yn y lleoedd hynny, o blegit efe a aethe ymmaith oddi yno heb ddwyn dim i ben: ond efe a adawse lu mewn rhyw le yn gryf iawn tros ben.

19Dositheus hefyd a Sosipater y capteniaid a oeddynt gyd a Machabaeus a aethant rhagddynt ac a laddasant o’r rhai a adawse Ti­motheus yn y lle mwy na deng mil o wŷr.

20Machabaeus wedi gosod ei wŷr yn finte­ioedd ai gosododd hwynt ar y minteoedd, ac a ruthrodd ar Timotheus a chyd ag ef gan mil ac vgain mil o wŷr traed, a dwy fil a phum cant o wŷr meirch.

21Ond Timotheus pan ŵybu ddyfodiad Iudas, a ddanfonodd o’r blaen wragedd a phlāt a chlud arall i le a elwir Carnion, o blegit y lle hwnnw oedd anhawdd ei gwmpasu a dyfod i mewn iddo, o achos y cyfyng leoedd o bôb tu.

22A phan ymddangosodd blaen câd Iudas fe a ddaeth ofn ar y gelynion, o blegit y nêb sydd yn gweled pob peth oedd yn bresennol yn dyfod arnynt, ac hwy a ffoesant vn ar vcha ’r llall yn gymmeint ag yn fynych iddynt gael eu clwyfo gan eu pobl eu hunain, ai gwānu â blaen eu cleddyfau eu hunain.

23Am hynny yr erlidiodd Iudas yn dostach, ac y gwanodd efe y rhai halogedic hyd oni laddodd efe yng-hylch deng-mîl ar hugain o wŷr.

24Timotheus ei hunan a syrthiodd yn nwylo Dositheus a Sosipater, a thrwy fawr ddichell a ddeisyfiodd arnynt ei ollwng ef yn rhydd yn fyw, am fod tan ei law ef dadau llaw­er a brodyr rhai, ac y digwydde na bydde gyfrif am y rhai hynny

25Pan roes efe ei grêd i laweroedd ar iddo ef eu rhyddhau hwynt, hwy ai gollyngasant ef yn rhydd o ran iechydwriaeth eu brodyr.

26Yna yr aeth Machabaeus yn erbyn Carnion, ac Atargation, ac a laddodd bum mîl ar hugain o wŷr.

27Wedi eu gyrru i gilio ai dinistr, efe a werssyllodd yn erbyn Ephron tref wedi ei chadarnhau yn yr hon yr oedd yn trigo gynnu­lleidfeudd o bôb cenedl, a gwŷr ieuaingc grymmus wedi eu gosod i amddeffyn y caerau, lle yr oedd hefyd fawr barodrwydd o offer rhyfel ac arfau.

28Ond wedi iddynt alw ar y pennadur yr hwn sydd yn gadarn yn gwanhau grym y gelynion hwy a gawsant y ddinas yn ddarostyng­edig, ac a laddasant o’r rhai oedd ynddi bum mîl ar hugain.

29Ar ôl hynny y symudasant oddi yno, ac y ruthrasant yn erbyn Seythopolis yr hon sydd oddi wrth Ierusalem chwe chant ystad.

30Ond wedi i’r Iddewon y rhai oeddynt yno yn presswylio destiolaethu drostynt, mor dda oedd, ewyllys y Seythopoliaid tu ag attynt, ac mor dda oedd eu hymwared hwynt tu ag attynt yn eu blin-fyd.

31Gan roddi diolch iddynt, hwy a ddeisy­faisāt arnynt fod yn gymmwynascar iw cenedl rhag llaw, ac am fod yn gyfagos ŵyl yr wythnosau hwy a ddaethant i Ierusalem.

32Ac wedi yr wyl a elwir Pentecost hwy a ruthrasant ar Gorgias capten Idumaea.

33Ac a aethant rhagddynt â their mil o wŷr traed, ac â phedwarcant o wŷr meirch.

34A phan ymladdasant yn ei erbyn ef, ymhell vn o’r Iddewon a laddwyd.

35Dositheus hefyd rhyw farchog o lu Ba­cenor o wr grymmus, pan ddaliodd efe Gorgias, efe ai lluscodd ef yn rymmus erbyn ei gochl, ai ewyllys ar ddal y gwr melldigedig hwnnw, ond fe ddaeth arno ef ryw ŵr march o Thracia ac a dorrodd ymmaith ei yscwydd ef felly y diangodd Gorgias i Maresa.

36A phan oedd y rhai oeddynt o amgylch Esryn yn ddeffygiol i ymladd chwaneg, Iudas a alwodd ar yr Arglwydd ar iddo ef ym­ddangos yn helpwr, yn gapten, ac yn flaenor i’r gâd.

37Ac efe a ddechreuodd lef gymmyscedig a psalmau yn iaith ei wlâd, ac a ddaeth yn ddisymmwth am ben rhyfelwŷr Gorgias, ac ai troes hwy i gilio.

38Felly Iudas dan gasclu ei lu a ddaeth i ddinas a elwyd Odola, yn yr hwn le pan ddaeth y seithfed dydd, fel yr oedd yr arfer, hwy ai glanhausant eu hunain, ac a gadwasant y dydd Sabboth yn y lle hwnnw.

39Yr ail dydd fel yr oedd anghenraid y daeth y rhai oeddynt gyd ag Iudas i ddwyn ymmaith gyrph y rhai a laddasid, ac iw claddu hwynt gyd ai cyfneseifiaid ym meddau eu tadau.

40Hwy a gawsant tan beisiau pob vn o’r rhai a lladdasid bethau wedi eu cyssegru i ddelwau ’r Iamniaid y rhai oedd waharddedig i’r Iddewon yn ôl y gyfraith yn gymmeint a bôd yn ysbys i bawb gael o’r rhai hyn eu lladd o achos hynny.

41Yna pawb a roes ddiolch i’r Arglwydd y barnwr cyfiawn, yr hwn sydd yn gwneuthur pethau cuddiedig yn amlwg.

42Hwy a droasant at eu gweddi, ac a ddeisyfiasant ar Dduw ddileu yn gwbl y pechod a wnaethant: ac Iudas yn nerthol a gynghorodd i’r gynnulleidfa ymgadw yn lân oddi wrth bechod, gan iddynt weled ai llygaid y pethau a ddaethe i benn am bechod y rhai a laddasid.

43Ac wedi iddo ddarpar treth o ddwyfil o ddragmau o arian, efe a ddanfonodd i Ierusalem i offrymmu dros y pechod: gan wneuthur yn dda ac yn onest, o achos ei fod yn meddwl am yr adyfodiad.

44O blegit oni buase iddo ef obeitho adcyfo­diad y rhai a laddesid, gwaith ofer fuase weddio tros y meirw.

45Yna y deallodd efe fôd taledigaeth yng­hadw i r rhai a fuasent feirw yn dduwiol.

46Sanctaidd a duwiol oedd y meddwl trwy yr hwn y gwnaeth iawn tros y meirw fel y rhyddheid hwy oi pechod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help