1Llawenychais pan ddywedent wrthif, awn i dŷ’r Arglwydd.
2Ein traed ni a safant o fewn dy byrth di ô Ierusalem.
3Ierusalem a adailadwyd fel dinas yn cydtuno ynddi ei hun.
4Canys yno ’r escynnodd y llwythau, llwythau’r Arglwydd, yn destiolaeth i Israel, i foliannu enw’r Arglwydd.
5Canys yno y gosodwyd gorsedd-feingciau barn: gorsedd-feingciau tŷ Dafydd.
6Dymunwch heddwch Ierusalem: llwydded y rhai a’th hoffant.
7Heddwch fyddo o fewn dy ragfur: ffynniant yn dy balassau.
8Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, llwyddiant i ti.
9Er mwyn tŷ’r Arglwydd ein Duw y ceisiaf i ti ddaioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
