Psalmau 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xix.Coeli enarrant.At y pen-cerdd Psalm Dafydd.

1 Y nefoedd sy yn dadcanu gogoniant Duw: a’r ffurfafen sy yn mynegu gwaith ei ddwy-law ef.

2Dydd i ddydd a draetha ymadrodd: a nôs i nôs a ddengys ŵybodaeth.

3Nid air nac ymadrodd, ni chlywyd eu lleferydd hwynt.

4I Rhuf.10.18.bob tîr yr aeth eu sain hwynt, ai geiriau hyd eithafoedd bŷd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt.

5Ac efe fel gŵr priod a ddaw allan oi stafell: ac a ymlawenhâ fel cawr yn rhedeg gyrfa.

6O eithaf y nefoedd ei fynediad ef allan, ai amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd oddi wrth ei wrês ef.

7Cyfraith yr Arglwydd berffaith yn troi yr enaid: testiolaeth yr Arglwydd siccr, ac yn pêri doethineb i’r ehud.

8Deddfau yr Arglwydd iniawn yn llawenhaû y galon: gorchymmyn yr Arglwydd bûr, yn goleûo y llygaid.

9Ofn yr Arglwydd lân, yn parhau yn dragywydd: barnau’r Arglwydd wirionedd, cyfiawn eu gyd.

10Mwy dymunol nag aur, îe, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl.

11Ynddynt hwy hefyd y dyscir dy wâs: oi cadw gobr lawer.

12Pwy a ddeall gamweddau? glanhâ fi oddi wrth fy cuddiedic.

13Attal hefyd dy wâs oddi wrth bechodau rhyfygus, na arglwyddiaethant arnaf: yna i’m perffeithir, ac i’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer.

14Bydded ymadroddion fyng-enau, a myfyrdod fyng-halon yn gymmeradwy ger dy fron, ô Arglwydd, fyng-hraig, a’m gwaredudd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help