2.Thessaloniaid 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Deisyf y mae arnynt weddio trosto, ar ffynnu ganddo bregethu’r Efengyl. 6 ai rhybuddio i geryddu y rhai segur. 16 A dymuno iddynt dangneddyf.

1Bellach, frodyr, Ephes.6.19. collos.4.3.gweddiwch trosom ar redeg o air yr Arglwydd rhagddo ai ogoneddu, megis gyd â chwithau,

2Ac ar ein gwaredu ninnau oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus, canys nid oes ffydd gan bawb.

3Eithr y mae yr Arglwydd yn ffyddlon, yr hwn a’ch siccrhâ, ac a’ch ceidw rhag drwg.

4Ac yr ydym yn gobeithio am danoch trwy’r Arglwydd, eich bod chwi yn gwneuthur, ac y gwnewch rhag llaw yr hyn yr ydym yn eu gorchymyn i chwi.

5A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau i garu Duw, ac i ymaros am Grist.

6Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi frodyr yn enw ’r Arglwydd Iesu Grist dynnu o honoch ymmaith oddi wrth bob brawd, a’r sydd yn rhodio yn anllywodraethus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd[efe]gennym ni.

7Canys chwy-chwi eich hunain a ŵyddoch pa fodd 1.Cor.11.1.|1CO 11:1. 1.thes.4.11,y dylech ein dilyn ni: gweith.20.34.|ACT 20:34. 1.cor.4.12.|1CO 4:12. 1.thes.2.9.canys nid ymddugasom yn anllywodraethus yn eich mysc chwi.

8Ac ni fwytasom fara gan neb yn rhâd, onid gan weithio trwy lafur a lludded nôs a dydd, er mwyn na phwysem ar neb o honoch.

9Nid o herwydd nad ydoedd gennym awdurdod, *namyn fel y rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i’n dilyn.

10Canys pan oeddym gyd â chwi, o hyn i’ch rhybuddiasom, fel os bydde neb ni weithie, na chai fwyta ychwaith.

11Canys clywsom fod rhai yn rhodio yn eich plith yn anllywodraethus heb weithio dim, onid bod yn rhodrescar.

12Y cyfryw yr ydym ni yn eu rhybuddio, ac yn attolwg er ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt gan weithio yn llonydd fwyta eu bara eu hunain.

13*A chwithau frodyr na ddeffygiwch yn gwneuthur daioni.

14Od oes neb nid vfuddhao ei’n hymadrodd yspyswch ef trwy lythr, *ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.

15Er hynny na chymmerwch ef fel gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd,

16Ac Arglwydd y tangnheddyf ei hun a roddo i chwi dangnheddyf yn oestadol ym mhob modd: yr Arglwydd fyddo gyd â chwi oll.

17Y cyfarch am llaw mau fy Paul yr hyn sydd arwydd ym mhob Epistol: fel hyn yr ydwyf yn scrifennu,

18Grâs ein Harglwydd Iesu Grist, gyd â chwi oll, Amen,

Yr ail at y Thessaloniaid a scrifennwyd o Athen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help