1Ac o fewn mîs Nisan yr vgeinfed flwyddyn i Artaxerxes y brenin, yr oedd gwîn oi flaen ef: a mi a gymmerais y gwîn, ac ai rhoddais i’r brenin, ond ni byddwn yn drîst ger ei fron ef.
2Am hynny y brenin a ddywedodd wrthif, pa ham dy wyneb-pryd yn drîst, a thithe heb fod yn glaf? nid hyn onid tristwch calon: yna’r ofnais yn ddirfawr.
3A dywedais wrth y brenin, byw fyddo’r brenin yn dragywydd: pa ham na thristâe fy wyneb pan fydde y ddinas thŷ beddrod fy nhadau wedi dinistrio, ai byrth wedi eu hyssu a thân?
4A’r brenin a ddywedodd wrthif, pa beth yr wyt ti yn ei geisio? yna y gweddiais ar Dduw y nefoedd,
5A mi a ddywedais wrth y brenin, o rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy wâs yn gymmeradwy ger dy fron di: yna gollwng fi i Iuda at ddinas beddrod fy nhadau fel yr adailadwyf hi.
6A’r brenin a ddywedodd wrthif (ai wraig oedd yn eistedd gyd ag ef) pa hŷd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? a’r oedd ddâ yng-ŵydd y brenin, am hynny efe a’m gollyngodd, a minne a osodais iddo amser nodedic.
7Yna y dywedais wrth y brenin, o rhynga bodd i’r brenin, rhodder i mi lythŷrau at y tywysogion o’r tu hwynt i’r afon: fel y trosglwyddant fi nes fy nyfod i Iuda:
8A llythyr at Asaph ceidwad y goedwig yr hon eiddo’r brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i ystyllennu pyrth y pâlas y rhai i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr hwn y delwyf iddo: a’r brenin a roddodd i mi, fel yr llaw fy Nuw yn ddaionus i mi.
9Yna y daethum at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, ac mi a roddais iddynt lythŷrau y brenin: a’r brenin a anfonase dywysogion y llu, a marchogion gyd a mi.
10Pan glybu Sanebalat yr Horoniad a Thobia y gwâs yr hwn Ammoniad yna y bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dŷn i geisio daioni i feibion Israel.
11Felly mi a ddeuthum i Ierusalem: ac a fum yno dri-diau.
12A chyfodais liw nôs, myfi ac ychydig o wŷr gyd a mi, ac ni fynegais i nêb beth a roddase fy Nuw yn fyng-halon i wneuthur yn Ierusalem: ac anifail nid oedd gennif, onid yr anifail yr hwn yr oeddwn i yn marchogaeth arno.
13A mi a euthum allan liw nôs drwy borth y glynn tu ag at ffynnon y ddraig, ac at borth y domm: a deliais sulw ar furoedd Ierusalem y rhai oeddynt wedi eu dryllio, ai phyrth hioeddynt wedi eu hyssu a thân.
14Yna y trammwyais i borth y ffynnon, ac at byscod-lynn y brenin: ac nid le i’r anifail yr hwn oedd tanaf i fyned trwodd.
15A mi a aethum i fynu gan lan yr afon liw nôs, a deliais sulw ar y mûr, dychwelais hefyd, a daethum drwy borth y glyn, felly y troais yn ôl.
16A’r pennaethiaid ni wyddent i ba le’r aethwn i, na pheth oeddwn yn ei wneuthur: canys hyd yn hyn ni fynegaswn i’r Iddewon, nac i’r offeiriaid, nac i’r pendefigion, nac i’r pennaethiaid, nac i’r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.
17Yna y dywedais wrthynt, yr ydych yn gweled yr adfyd yr hwn yr ydym ynddo, canys Ierusalem a ddinistriwyd, ai phyrth hi a loscwyd a thân: deuwch, ac adailadwn fûr Ierusalem, fel na byddom mwyach yn wradwydd.
18Pan fynegais iddynt fod llaw fy Nuw yn ddaionus tu ag attaf, a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedase efe wrthif: yna hwynt a ddywedasant, cyfodwn, ac adailadwn, felly y cryfhausant eu dwylo i ddaioni.
19Pan glybu Sanebalat yr Horoniad, a Thobia y gwâs yr hwn Ammoniad a Gesem yr Arabiad yna hwynt a’n gwatwarasant ni, ac a’n dirmygasant ni: dywedasant hefyd, pa beth hyn yr ydych chwi yn ei wneuthûr? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin?
20Yna yr attebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, Duw y nefoedd efe a’n llwydda ni, a ninnau ei weision ef a gyfodwn, ac a adailadwn: ond ni i chwi rann, na chyfiawnder, na choffadwriaeth yn Ierusalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.