1Pan weddiodd Esdras, 3.Esdr.8.90.a phan gyffessodd efe gan ŵylo, a chan syrthio o flaen tŷ Dduw, tyrfa fawr o Israel a ymgasclasant atto ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant, canys y bobl a ŵylasant ag ŵylofain mawr.
2Yna y llefarodd Sechaniah mab Iechiel o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Esdras, ni a bechâsom yn erbyn ein Duw, ac a gyttaliasom a gwragedd dieithr o bobl y wlâd: etto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn.
3Yn awr gan hynny gwnawn gyfammod a’n Duw, ar fwrw allan yr holl wragedd, ai plant, wrth gyngor yr Arglwydd a’r rhai a ofnant orchymynnion ein Duw: a gwneler yn ôl y gyfraith.
4Cyfot, canys arnat ti’r peth: ac ni gyd a thi, ymnertha, a gwna.
5Yna y cyfododd Esdras, ac a dyngodd bennaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a holl Israel ar wneuthur ar ôl y peth hyn, a hwynt a dyngasant.
6Yna 3.Esdr.9.1.y cyfododd Esdras o flaen tŷ Dduw ac a aeth i stafell Iohanan fab Eliasib: pan aeth yno ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr, canys galaru’r oedd am gamwedd y gaeth-glud.
7A chyhoeddasant yn Iuda, ac Ierusalem, i holl feibion y gaeth-glud ymgasclu i Ierusalem.
8A phwy bynnac ni ddele o fewn tridiau yn ôl cyngor y pennaethiaid, a’r henuriaid, difrodid ei holl olud ef, ac yntef a ddidolid oddi wrth dyrfa y gaeth-glud.
9Felly holl wyr Iuda, a Beniamin a ymgasclasant i Ierusalem o fewn tridiau, hynny y nawfed mîs, ar yr vgainfed o’r mîs, a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ Dduw yn crynnu rhag y peth hyn, a rhag y glaw.
10Ac Esdras yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt: chwi a bechasoch, ac a gyttaliasoch a gwragedd dieithr, gan chwanegu ar bechod Israel.
11Ac yn Iosu.7.1,9.awr rhoddwch ogoniant i Arglwydd Dduw eich tadau, a gwnewch ei ewyllys ef, ac yscerwch oddi wrth bobl y tîr, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.
12A holl dyrfa Israel a attebasant, ac a ddywedasant a llef vchel, i ni wneuthur felly yn ôl dy air di.
13Eithr y bobl sydd lawer, a’r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan, ac nid gwaith vn diwrnod, na dau canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn.
14Safed ein pennaethiaid attolwg tros yr holl dyrfa, a’r rhai oll yn ein dinasoedd y rhai a gyttaliasant a gwragedd dieithr, deued ar yr amseroedd gosodedic, a henuriaid pôb dinas, ai barn-wŷr gyd a hwynt, nes troi digter ein Duw oddi wrthym am y peth hyn.
15Yn vnic Ionathan mab Asahel, ac Iahasiah mab Thecua a safasant am hyn: Mesulam, hefyd a Sabathai y Lefiaid ai cynnorthwyasant hwy.
16A meibion y gaeth-glud a wnaethāt felly: yna Esdras yr offeiriad a’r gwŷr bennau cennedl tŷ eu tadau, a hwynt oll yn enwoc a ymddidolasant, ac a eisteddasant, ar y dydd cyntaf o’r decfed mîs i holi y peth hyn.
17A darfu iddynt a’r holl wyr a gyttaliasent a gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o’r mîs cyntaf.
18A chafwyd o feibion yr offeiriaid y rhai a grttaliasent a gwragedd dieithr, o feibiō Iesua fab Iosedec ai frodyr, Maasia, ac Eliezer, ac Iarib, a Gedaliah.
19A hwy a roddasant eu ddwylo ar fwrw allan eu gwragedd, a’r rhai a bechasent hwrdd defaid dros eu camwedd.
20Felly o feibion Immer, Hanani, a Zebadia.
21Ac o feibion Harim: Maasia, Elia, Semeia, Iehiel, ac Uzziah.
22Ac o feibion Pashur, Elioenai, Masia, Ismael, Nathanel, Iosabad, ac Elasah.
23Ac o’r Lefiaid Iosabad, Semei, a Celaia, hwnnw[yw] Celîta. Phathaiah, Iuda, ac Eliezer.
24Ac o’r cantorion, Eliasib, ac o’r porthorion, Selum, Telem, ac Uri.
25Ac o Israel, o feibion Pharos, Rameiah, Iesia, Melchia, Miamin, Eleazar, Melchia, a Benaiah.
26Ac o feibion Elam Mathania, Zacharia, Iehiel, Abdi, Ierimoth, ac Elia.
27Ac o feibion Zatthu Elioenai, Eliasib, Mathania, Ierimoth, Zabad, ac Aziza.
28Ac o feibion Bebai, Iehohanan, Hanania, Zabbai, ac Athalai.
29Ac o feibion Bani, Mesulam, Maluch, a Adaiah: Iasub, Saal, ar Ieramoth.
30Ac o feibion tywysog Moab, Adna Chelal, Benaia, Maasia, Mathania, Besalel, Bennui, a Manasse.
31Ac o feibion Harim, Eliezer, Isiiah, Melchiiah, Semeia, Simeon:
32Beniamin, Maluch, Semariah.
33O feibion Hasum, Matthenai, Mathatha, Zabad, Eliphalet, Ieremai, Manasse, Semei.
34O feibiō Bani, Maadai, Amram, ac Uel,
35Banaia, Badaia, Cheluhu.
36Uaniah, Maremoth, Eliasib,
37Mathaniah, Mathanai, ac Iasi.
38Bani, Bennui, a Semei.
39Selemia, Nathan, Adaiah.
40Machnadebai, Sasai, Sarai.
41Asarel, Selemiahu, a Semariah.
42Salum, Amaria, ac Ioseph.
43O feibion Nebo, Iehiel, M athathia, Zabad, Zebina, Iadau, ac Ioel,Benaia.
44Y rhai hyn oll a gymmerasent wragedd dieithr, ac yr oedd o honynt wragedd, a hwy a ennillasent blant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.