1Dadcanaf drugaredd a barn: i ti Arglwydd y canaf.
2Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith hyd oni ddelech attaf: rhodiaf mewn perffeithrwydd fyng-halon o fewn fy nhŷ.
3Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid, câs gennif waith y rhai cildynnus: ni lŷn wrthif.
4Calon gyndyn a gilia oddi wrthif, nid adnabyddaf drygionus.
5Torraf ymmaith yr hwn a enllibio ei gyfaill yn ddirgel, y balch o olwg a’r vchel galon ni allaf
6Fy llygaid ar ffyddlōniaid y tîr, fel y trigant gyd â mi: ’r hwn a rodio mewn ffordd berffaith hwnnw a’m gwasanaetha fi.
7Ni thrig o fewn fy nhŷ yr vn a wnelo dwyll, ni chadarnheuir yn fyng-olwg yr vn a ddywedo gelwydd.
8Yn foreu y torraf ymmaith holl annuwolion y tir: gan ddiwreiddio holl weithred-wŷr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
