2.Samuel 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Caredigrwydd Dafydd i Mephiboseth mab Ionathan.

1Yna y dywedodd Dafydd, a oes etto vn wedi ei adel o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef er mwyn Ionathan?

2Ac yr gwâs o dŷ Saul, ai enw Ziba a hwy ai galwasant ef at Ddafydd: a’r brenin a ddywedodd wrtho ef, ai tydi Ziba? a dywedodd yntef, dy wâs efe.

3Yna y dywedodd y brenin, a oes neb etto o dy Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Dduw ag ef? dywedodd Ziba wrth y brenin etto fâb i Ionathan Pen.4.4.yn gloff oi draed.

4Yna y dywedodd y brenin wrtho ef, pa le y mae efe? a Ziba a ddywedodd wrth y brenin, wele ef yn nhŷ Machir fab Ammielo Lo-debar.

5Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac ai dûg ef o dŷ Machir fab Ammiel o Lo-debar.

6Pan ddaeth Mephiboseth mab Ionathan, mâb Saul at Ddafydd, yna efe a syrthiodd at ei wyneb, ac a ymgrymmodd: a Dafydd a ddywedodd, Mephiboseth? dywedodd yntef, wele dy wâs.

7Yna Dafydd a ddywedodd wrtho ef, nac ofna, canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd a thi, er mwyn Ionathan dy dâd, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dâd: a thi a fwyttei fara ar fy mwrdd i yn wastadol.

8Ac efe a ymgrymmodd, ac a ddywedodd, beth dy wâs di: pan edrychit ar gî marw o’m math i.

9Yna y brenin a alwodd ar Ziba gwâs Saul, ac a ddywedodd wrtho ef: yr hyn ôll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl dŷ ef a roddais i fab dy feistr di.

10A thi a erddi y tir iddo ef, ti a’th feibion, a’th weision, ac ai dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe, a Mephiboseth mab dy feistr di a fwytu yn wastadol fara ar fy mwrdd i: (ac i Ziba pymthec o feibion, ac vgain o weision)

11Yna y dywedodd Ziba wrth y brenin, yn ôl yr hyn oll a orchymynnodd fy Arglwydd y brenin i’th wâs, felly y gwnaiff dy wâs: yna Mephiboseth a fwytu ar fy mwrdd i, fel vn o feibion y brenin.

12Ac i Mephiboseth mab bychan ai enw Micha: a phawb a’r yn cyfanneddu tŷ Ziba weision i Mephiboseth.

13A Mephiboseth a drigodd yn Ierusalem, canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff oi ddeu-droed.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help