1Dymma eiriau y llythyr yr hwn a anfonodd Ieremi y prophwyd o Ierusalem at weddill henuriaid y gaeth-glud, ac at yr offeiriaid, ac at y prophwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaeth-gludase Nabuchodonosor o Ierusalem i Babilon,
2 Iere.24.2. (Wedi mynediad Iechonias y brenin, a’r frenhines a’r stafellyddion, tywysogion Iuda, a Ierusalem a’r celfydd, a’r cywraint hefyd allan o Ierusalem)
3Yn llaw Elasah mab Saphan, a Gemaria fab Helcia (y rhai a anfonodd Sedecia brenin Iuda at Nabuchodonosor frenin Babilon i Babilon) gan ddywedyd:
4Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel wrth yr holl gaeth-glud, yr hon a berais ei chaeth-gludo o Ierusalem i Babilon:
5Adailedwch dai a phresswyliwch, a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.
6Cymmerwch wragedd, ac ennillwch feibion, a merched, a chymmerwch wragedd i’ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr fel yr escorant feibion, a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihâoch.
7Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon i’ch caeth-gludais iddi, a gweddiwch ar yr Arglwydd drosti hi: canys yn ei heddwch hi, y bydd heddwch i chwithau.
8O herwydd fel hynn y dywedodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel, na thwylled eich prophwydi y rhai yn eich mysc chwi mo honoch, na’ch dewiniaid, ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn eu breuddwydio:
9Canys y maent hwy yn prophwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i: ni anfonais i hwynt medd yr Arglwydd.
10O herwydd fel hynn y dywed yr Arglwydd, pan gyflawner yn Babilon ddeng-mhlynedd a thrugain yr ymwelaf â chwi: yna y cyflawnafi â chwi fyng-air daionus, am eich dwyn chwi trachefn i’r lle hwn.
11O blegit myfi a wn yr amcannion y rhai a amcenais i am danoch chwi medd yr Arglwydd amcannion heddwch, ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwil.
12Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddiwch arnafi, a minne a’ch gwrandawaf.
13 2.Cron.36.22.|2CH 36:22. ezra 1.1.|EZR 1:1. iere.25.12.|JER 25:12. dan.9.2. Ceisiwch fi hefyd, ac chwi a’m cewch canys chwi a’m ceisiwch fi a’ch holl galon.
14Gadawaf i chwi fyng-hael medd yr Arglwydd, ac mi a ddychwelaf eich caethiwed, ac a’ch casclaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai i’ch gyrrais iddynt medd yr Arglwydd, ac mi a’ch dygaf chwi trachefn i’r lle y perais eich caeth-gludo chwi allan o honaw.
15O herwydd i chwi ddywedyd, yr Arglwydd a gyfododd brophwydi i ni yn Babilon.
16Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am y brenin yr hwn sydd yn eistedd ar deyrn-gadair Dafydd, ac am yr holl bobl y rhai ydynt yn aros yn y ddinas hon, a’ch brodyr y rhai nid aethant allan gyd â chwi yn y gaeth-glud:
17[Ie] fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd, wele fi yn anfon arnynt y cleddyf, a’r newyn, a haint, ac mi ai rhoddaf hwynt fel y ffigus ffiaidd y rhai nid ellir eu bwytta rhac eu dryced.
18Ac mi ai herlidiaf hwynt â chleddyf, â newyn, ac â haint, ac mi ai rhoddaf hwynt, i yn derfysc i holl deyrnasoedd y ddaiar Ier.26.6.yn felldith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth ym mysc yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt.
19Am na wrandawsant ar fyng-eiriau medd yr Arglwydd y rhai a anfonais i attynt gyd a’m gweision y prophwydi, gan gyfodi yn foreu, ac anfon: ond ni wrandawech medd yr Arglwydd.
20Gan hynny gwrandewch chwi air yr Arglwydd yr holl gaeth-glud yr hon a anfonais o Ierusalem i Babilon.
21Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel am Ahab fab Colaiah, ac am Sedecia fab Maasiah y rhai sy yn prophwydo celwydd i chwi yn fy enw i: wele myfi ai rhoddaf hwynt yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon, ac efe ai lladd hwynt yngŵydd eich llygaid.
22A holl gaeth-glud Iuda yr hon yn Babilon a arferant y rhegen oddi wrthynt hwy, gan ddywedyd: gosoded yr Arglwydd dy di fel Sedecia, ac Ahab y rhai a bobodd brenin Babilon wrth tân.
23Am iddynt wneuthur ffolineb yn Israel a gwneuthur godineb gyd â gwragedd eu cymdogion, a llefaru o honynt eiriau iddynt: a minne yn gwybod, ac yn dyst medd yr Arglwydd.
24Ac wrth Semeiah y Nehelamiad y lleferi di gan ddywedyd:
25Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel gan ddywedyd: am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl y rhai yn Ierusalem, ac at Sophoniah fab Maasiah yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid gan ddywedyd:
26Yr Arglwydd a’th osododd di yn offeiriad yn lle Iehoiada yr offeiriad i fod yn olygwr yn nhŷ yr Arglwydd ar bob gŵr gorphwylloc, ac yn cymmeryd arno brophwydo, iw roddi ef mewn carchar a chyphion.
27Ac yn awr pa ham na cheryddi di Ieremi o Anathoth yr hwn sydd yn prophwydo i chwi?
28Canys efe a anfonodd attom ni i Babilon, gan ddywedyd, hîr fydd adailedwch, a phresswyliwch a phlennwch erddi, a bwytewch oi ffrwyth hwynt.
29A Sophoniah yr offeiriad a ddarllenodd y llythyr hwn lle y clywodd Ieremi y prophwyd,
30Yna y daeth gair yr Arglwydd at Ieremi gan ddywedyd:
31Anfon di at yr holl gaeth-glud, gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am Semeiah y Nehelamiad: o herwydd i Semeiah brophwydo i chwi, a minne heb ei anfon ef, a pheri o honaw ef i chwi goelio celwydd,
32Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele fi yn ymweled â Semeiah y Nehelamiad, ac ai hâd ef, ni bydd iddo vn a eisteddo ym mysc y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni yr hwn a wnafi i’m pobl medd yr Arglwydd, am iddo ddywedyd yn wrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.