Ioan 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Mair Magdalen, ac Ioan a Phetr yn dyfod ar y bedd. 12 Cysur yr angelion iddynt. 14 Iesu yn ymddangos i Fair Fagdalen. 19 Ac i’r discyblion ddwy-waith, gan gadarnhau ffydd Thomas y waith olaf.

1 A’r Yna Eithr Thomas vn o’r deuddec yr hwn a elwir Didimus nid oedd gyd â hwynt, pan ddaethe yr Iesu.

25A’r discyblion eraill a ddywedasant wrtho: ni a welsom yr Arglwydd: yntef a ddywedodd wrthynt, oni welwyf yn ei ddwylaw ôl yr hoelion, a dodi fy mŷs yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.

26Ac ar ben yr wyth niwrnod, yr oedd ei ddiscyblion ef i mewn eil-waith, a Thomas gyd â hwynt, yr Iesu a ddaeth a’r drysau yn gaead, ac a safodd yn eu canol, ac a ddywedodd, Tangneddyf i chwi.

27Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, moes ymma dy fŷs, a gwêl fy nwylaw, ac estyn dy law, a dôd yn fy ystlys, ac na fydd anghredadyn, ond credâdyn.

28A Thomas a attebodd, ac a ddywedodd wrtho: fy Arglwydd a’m Duw.

29Yr Iesu a ddywedodd wrtho: Thomas, am i ti weled y credaist: bendigedic yw y rhai ni welsant, ac a gredâsant.

30A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng-ŵydd ei ddiscyblion, Ioan.21.25.y rhai nid ynt scrifennedic yn y llyfr hwn.

31Eithr y pethau hyn a scrifennwyd fel y credech fod Iesu Grist yn Fab Duw, ac i chwi gan gredu, gael bywyd trwy ei enw ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help