1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noah, dôs di, a’th holl dŷ i’r Arch: canys tydi a 2.pet,2.5.welais i yn gyfiawn yn yr oes hon, ger fy mron i.
2O bôb anifail glân y cymmeri gyd a thi bôb yn saith, y gwryw ai fanyw, a dau o’r anifailiaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw ai fanyw:
3O ehediaid y nefoedd hefyd, bôb yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw hâd yn fyw, ar wyneb yr holl ddaiar.
4O blegit wedi saith niwrnod etto, mi a lawiaf ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs: a mi a ddeleaf oddi ar wyneb y ddaiar bôb peth byw a’r a wneuthum i.
5 Mat.24.37.|MAT 24:37. Luke 17.26.|LUK 17:26. 1.Pet.3.20 A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd iddo.
6Noah hefyd fâb chwe chan mlwydd, pan fu y diluw dyfroedd ar y ddaiar.
7Yna y daeth Noah, ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion gyd ag ef i’r Arch, rhac y dwfr diluw.
8O’r anifeiliaid glân, ac o’r anifeiliaid y rhai nid lân, o’r ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusce ar y ddaiar,
9Y daethant at Noah i’r Arch bôb yn ddau, yn wryw, ac yn fanyw, fel y gorchymynnase Duw i Noah.
10Ac wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaiar.
11Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mîs, ar yr ail dydd ar bymthec o’r mîs, ar y dydd hwnnw y rwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.
12Ar glaw fu ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos.
13O fewn corph y dydd hwnnw y daeth Noah, a Sem, a Cham, a Iapheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwragedd ei feibion ef gyd a hwynt i’r Arch.
14Hwynt, a phôb bwyst-fil wrth ei rywogaeth, a phôb anifail wrth ei rywogaeth, a phôb ymlusciad a ymlusce ar y ddaiar wrth ei rywogaeth, a phôb ehediad wrth ei rywogaeth, pôb rhyw aderyn.
15A daethant at Noah i’r Arch bôb yn ddau, o bôb cnawd yr hwn ynddo anadl enioes.
16A’r rhai a ddaethant, yn wryw, a banyw y daethant o bôb cnawd, fel y gorchymynnase Duw iddo, yna’r Arglwydd a gaeodd arno ef.
17A’r diluw fu ddeugain nhiwrnod ar y ddaiar, a’r dyfroedd a amlhausant, fel y dygasant yr Arch, ac y codwyd hi oddi ar y ddaiar.
18A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a amlhausant yn ddirfawr ar y ddaiar, a’r Arch a rodiodd ar hyd wyneb y dyfroedd.
19A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaiar, a gorchguddiwyd yr holl fynyddoedd uchel yr rhai oeddynt tann yr holl nefoedd.
20Pymthec cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd, tuac i fynu wedi gorchguddi y mynyddoedd.
21 Eccles. 39.28. Yna y bu farw pôb cnawd yr hwn a ymlusce ar y ddaiar, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid ac yn fwyst-filod, ac yn bôb ymlusciad a ymlusce ar y ddaiar, a phôb dŷn
22Yr hyn oll ffûn anadl enioes yn ei ffroenau: o’r hyn oll ar y sych-dir a fuant feirw.
23Ac efe a ddeleodd bôb sylwedd byw a’r a ar wyneb y ddaiar, yn ddŷn, ac yn anifail, yn ymlusciaid, ac yn ehediaid o’r nefoedd; ie, delewyd hwynt o’r ddaiar: a Noah a’r rhai gyd ag ef yn yr Arch yn unic a adawyd yn fyw.
24A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaiar, ddeng nhiwrnod a deugain, a chant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.