1.Brenhinoedd 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Teyrnasiad Abiam ar Iuda. 8 Ac Asa ar ei ôl yntef. 16 Y rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa.

1Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Ieroboam mab Nabat, yr aeth

8Ac 2.Cron.14.1.Abiam a hunodd gyd ai dadau, a hwynt ai claddasant ef yn ninas Dafydd: ac Asa ei fab ef a deyrnasodd yn ei le ef.

9Ac yn yr vgeinfed flwyddyn i Ieroboam brenin Israel, yr aeth Asa yn frenin ar Iuda.

10Ac vn mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Maacha merch Abisalom.

11Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.

12Canys efe a yrrodd ymmaith y gwŷr Sodomiaidd o’r wlâd: ac efe a fwriodd ymmaith yr holl ddelwau y rhai a wnaethe ei dadau.

13Ac 2.Cron.15.16.efe a symmudodd Maacha ei fam o yn dywysoges, o herwydd gwneuthur o honi hi ddelw mewn llwyn: ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac ai lloscodd wrth afon Cedron.

14Ond nid yscogwyd yr vchelfeudd: etto calon Asa oedd berffaith gyd a’r Arglwydd ei holl ddyddiau ef.

15Ac efe a ddûg imewu gyssegredic bethau ei dad ef, a chyssegredic bethau tŷ’r Arglwydd: yn arian, yn aur, ac yn llestri.

16A rhyfel fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel, eu holl ddyddiau hwynt.

17Yna Baasa brenin Israel a aeth i fynu yn erbyn Iuda, ac a adailadodd Rama: fel na adawe efe i neb fyned, na dyfod at Asa frenin Iuda.

18Yna Asa a gymmerodd yr holl arian, 2.Cron.16.1.a’r aur a adawsyd yn nhryssorau tŷ’r Arglwydd, a thryssorau tŷ’r brenin, ac efe ai rhoddes hwynt yn llaw ei weision: a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab Tabrimon, mab Hesion brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus gan ddywedyd:

19Cyfammod rhyngofi a thi, rhwng fy nhâd i a’th dâd ti: wele mi a anfenais i ti anrheg o arian, ac aur, dôs, diddymma dy gyfammod a Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthifi.

20Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd y rhai ganddo ef yn erbyn dinasoedd Israel, ac efe a darawodd Hion, a Dan, 2.Cron.16.3.ac Abel

21A phan glybu Baasa yna efe a beidiodd ac adailadu Rama: ac a drigodd yn Thirsa.

22Yna y brenin Asa a gasclodd holl Iuda heb lyssu ac hwy a gymmerasant gerric Rama, ai choed y rhai a adailadase Baasa: a’r brenin Asa adailadodd a hwynt Gibea Beniamin, a Mispah.

23A’r rhan arall o holl hanes Asa, ai holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r dinasoedd y rhai a adailadodd efe, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda? eithr yn amser ei henaint ef, efe a glafychodd oi draed.

24Ac Asa a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd gyd ai dadau yn ninas Dafydd ei dâd: ac Iosaphat ei fab ef a deyrnasodd yn ei le ef.

25A Nadab mab Ieroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Iuda: ac efe a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.

26Ac efe a wnaeth ddrygioni yng-olwg yr Arglwydd: ac a rodiodd yn ffordd ei dâd ac yn ei bechod ef’r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

27Am hynny Baasa mab Ahia o dy Issachar a gydfwriadodd yn ei erbyn ef, a Baasa ai tarawodd ef yn Gibethon yr hon eiddo y Philistiaid: canys Nadab, a holl Israel oeddynt yn gwarchau ar y Gibethoniaid.

28A Baasa ai lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Iuda: ac efe a deyrnasodd yn ei le ef.

29A phan deyrnasodd, efe a darawodd holl dŷ Ieroboam, ni adawodd vn anadl i Ieroboam nes ei ddifetha ef, yn ôl 1 Bren.14.10.gair yr Arglwydd yr hwn a lefarase efe drwy law ei wâs Ahia y Siloniad.

30Am bechodau Ieroboam y rhai a bechase efe, a y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu: o herwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel.

31A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

32A rhyfel fu rhwng Asa, a Baasa brenin Israel, eu holl ddyddiau hwynt.

33Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Iuda: y teyrnasodd Baasa mab Ahia ar holl Israel yn Thirsa, bedair blynedd a’r hugain.

34Ac efe a wnaeth ddrygioni yng-olwg yr Arglwydd: ac a rodiodd yn ffordd Ieroboam, ac yn ei bechod ef, yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help